Angen gwneud mwy i gadw pobl ifanc Cymru mewn cyflogaeth neu hyfforddiant, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

15 Hydref 2010

Angen gwneud mwy i gadw pobl ifanc Cymru mewn cyflogaeth neu hyfforddiant, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad wrth fynd i'r afael â phroblemau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Er bod nifer o strategaethau cadarnhaol ar waith, mae’r adroddiad gan y grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn nodi bod diffyg cyfeiriad a chydweithio yn golygu bod gwasanaethau ar gyfer y 68,000 o bobl ifanc NEET rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn gorgyffwrdd, ac nad ydynt wedi’u cydgysylltu.


Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai un o Weinidog Llywodraeth Cymru oruchwylio’r agenda, ac y dylid sefydlu asiantaeth arweiniol ar lefel leol er mwyn cydgysylltu partneriaethau, nodi cyfrifoldebau a rheoli taith pobl ifanc o un cam i'r llall.


Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth fod angen edrych ar brofiadau pobl ifanc pan fyddant yn iau o lawer, er mwyn adnabod y rhai sydd mewn perygl o fod yn NEET yn y dyfodol.

Roedd diffyg strategaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, a’r angen i gysylltu gwasanaethau ar gyfer pobl NEET i osgoi sefyllfa lle caiff pobl ifanc eu symud rhwng darparwyr heb symud ymlaen, hefyd yn peri pryder i’r Pwyllgor.


Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: ‘Mae’r ffactorau sy’n achosi i bobl ifanc fod yn NEET yn gymhleth ac nid oes atebion hawdd i fynd i'r afael â'r broblem.


‘Y pwynt pwysig yw y dylid cydlynu, cysylltu ac alinio’r holl bolisïau ac ymyriadau sy’n effeithio ar y bobl ifanc hyn o fewn fframwaith cyffredinol o amcanion a thargedau clir.


‘Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth NEET yn 2009, ond mae tystiolaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn dangos anghysondeb wrth ei gweithredu, ac nad oes neb yn dangos ffordd ymlaen o hyd ar gyfer yr agenda yng Nghymru.


‘Nid oes prinder dyheadau na strategaethau, ac mae angen i ni gael amrywiaeth. Fodd bynnag, mae gweithredu mwy effeithiol ar lawr gwlad a chydweithio gwell rhwng asiantaethau yn hanfodol er mwyn sicrhau cefnogaeth ddi-dor ar gyfer y bobl ifanc hyn. "