Cyhoeddwyd 04/04/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Angen gwneud mwy i leihau digartrefedd yng Nghymru
Mae’r lleihad diweddar o ran niferoedd digartrefedd yng Nghymru yn cael ei groesawu, ond mae digartrefedd cudd a phrinder tai fforddiadwy yn bryderon dybryd, yn ôl adroddiad archwilio newydd.
Heddiw (dydd Mercher 4 Ebrill) mae’r Pwyllgor Archwilio yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ei adroddiad ar strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddigartrefedd. Mae’n dod i’r casgliad bod y strategaeth hon, sy’n anelu at atgyfnerthu ffocws y gwasanaethau digartrefedd ar atal, cynorthwyo a rhoi mynediad i dai, wedi cael rhywfaint o lwyddiant, ond mae angen gwneud mwy.
Cred y pwyllgor fod y gwir nifer o safbwynt pobl ddigartref yn uwch nag y mae’r ystadegau’n ei nodi, gan nad yw pawb sy’n ddigartref yn mynd at eu cyngor lleol am gymorth. Mae pryder hefyd y gall rhai cynghorau ddehongli diffiniadau o ddigartrefedd yn rhy gul, ac mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn darparu arweiniad clir ar sut y dylid dehongli’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd.
Cred y pwyllgor hefyd ei bod yn bosibl nad yw pob llety dros dro o safon digon uchel, ac mae’n argymell bod pob llety o’r fath yn cael ei archwilio.
Meddai Janet Davies AC, cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Credwn fod prinder tai yn broblem ddifrifol. Mae’n gadarnhaol gweld y gwneir mwy o ddefnydd o dai cymdeithasol a’r sector preifat i ddarparu cartrefi i bobl ddigartref. Fodd bynnag, y drwg yw’r pwysau y mae’n ei roi ar argaeledd tai cymdeithasol ar gyfer y bobl hynny sydd angen cartref diogel a lleihau’r ddarpariaeth llety sydd ar gael i’r rheiny nad ydynt yn cael eu hystyried yn statudol ddigartref ac felly’n cynyddu’r risg fel bod mwy o deuluoedd yn ddigartref yn y dyfodol.”