Yn ei ymchwiliad i dwristiaeth, clywodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod twristiaeth ar gynnydd yng Nghymru, gyda thwf yn nifer yr ymweliadau gan dwristiaid o gartref a thwristiaid rhyngwladol. Fodd bynnag, dywedodd busnesau twristiaeth ac academyddion dro ar ôl tro fod angen brand twristiaeth cryfach ar Gymru i wneud y gorau o'r potensial enfawr sydd ganddi o ran twristiaeth.
Croesawodd y Pwyllgor y gwaith brandio diweddaraf a wnaed gan Ashton Brand Consulting Group i Lywodraeth Cymru, ond dywedodd fod angen bwrw ymlaen â'r gwaith hwn er mwyn sicrhau brand twristiaeth clir a chyson i Gymru. Mae'n rhaid i fusnesau twristiaeth fod yn rhan o'r broses fel y gall pob rhanddeiliad – o Croeso Cymru i fusnesau bach a chanolig ym maes twristiaeth – gydweithio i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru.
Roedd nifer o dystion yn ansicr a yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi digon o arian yn y diwydiant twristiaeth. Clywodd y Pwyllgor fod y gwariant ar dwristiaeth yng Nghymru tua'r un faint â'r gwariant yn Glasgow, ac yn aml, gwneir elw ar yr arian a gaiff ei fuddsoddi mewn marchnata ym maes twristiaeth. Felly, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu a yw'n gwario digon o arian ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth.
Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw VisitBritain (asiantaeth datblygu twristiaeth Llywodraeth y DU) yn gwneud digon i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan penodol yn y DU, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda VisitBritain i bennu targedau heriol o ran twf i wella twristiaeth yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ffaith i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ddod i gasgliadau tebyg yn ei ymchwiliad diweddar i sut y caiff Cymru ei chynrychioli a'i hyrwyddo gan sefydliadau o'r DU yn rhyngwladol, ac mae'n galw ar VisitBritain i weithredu argymhellion y ddau adroddiad hyn.
Yn ystod yr ymchwiliad, cynhaliodd Aelodau'r Cynulliad gyfarfodydd yng Nghaerdydd, Sir Benfro a Gwynedd i glywed safbwyntiau a phrofiadau busnesau twristiaeth lleol.
Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes:
"Mae'n ardderchog gweld y twf diweddar o ran twristiaeth yng Nghymru, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i economi Cymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fanteisio ar y potential enfawr sydd gan Gymru o ran twristiaeth.
"Dywedodd nifer o dystion wrthym ni am yr hyn sy'n gwneud Cymru mor ddeniadol ac unigryw fel cyrchfan i dwristiaid. Mae'n cynnig popeth o draethau digyffwrdd a thirweddau dramatig i ddinasoedd dynamig, treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ac iaith fyw fyrlymus. Yn ôl VisitBritain mae ymwelwyr rhyngwladol yn gwerthfawrogi ein cestyll yn fawr, ac mae ymweld â'n cestyll ymhlith eu hoff weithgareddau nhw.
"Ar ein hymweliadau, gwelsom drosom ein hunain y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud gan fusnesau twristiaeth, ac roedd yn gyffrous gweld llwyddiant atyniadau twristiaeth newydd fel Bounce Below yn Ogofau Llechwedd.
"O gofio hynny, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau brand twristiaeth Cymru ac ystyried a yw'n gwario digon o arian ar dwristiaeth, ac a yw ei dargedau o ran twf yn ddigon uchel, o ystyried y potensial sylweddol ar gyfer twf yn y diwydiant hwn. Mae'r diwydiant twristiaeth yn chwarae rôl allweddol yn economi Cymru, a gyda'r gefnogaeth iawn gan Lywodraeth Cymru a VisitBritain, gall gyflawni hyd yn oed mwy."
Adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (PDF, 626KB)