Mae Cymru yn haeddu setliad datganoli eglur a pharhaol yn ôl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan dynnu sylw at hyn fel cyfle i gyflwyno setliad datganoli parhaol na fydd angen ei ddiwygio'n helaeth.
Mae'r Pwyllgor wedi bod yn trafod Papur Gorchymyn Llywodraeth y DU, 'Powers for a Purpose', sy'n edrych ar gynigion ar gyfer datganoli pellach i Gymru. Mae'r Pwyllgor yn gryf o blaid y model 'Cadw Pwerau', lle mae'r materion na ellir eu datganoli'n effeithiol yn cael eu cadw gan San Steffan, ac yn argymell y dylid defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion. Dyma'r prif egwyddorion: eglurder, symlrwydd ac ymarferoldeb.
Yn ogystal, mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth y DU yn llunio amserlen glir ar gyfer deddfu gan ganiatáu amser i ddau Dŷ'r Senedd a'r Cynulliad Cenedlaethol graffu ar y Bil drafft a'r Bil terfynol.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
"Mae pobl Cymru yn haeddu setliad datganoli parhaol sy'n syml, yn glir ac yn ymarferol. Bydd hyn yn galluogi Cymru i symud heibio'r ddadl gyfansoddiadol, ac i ganolbwyntio ar sut y gallwn oll wneud y defnydd gorau o'r pwerau hyn i gyflawni dros Gymru.
"Mae hwn yn gyfle i bawb sydd ynghlwm achub ar y cyfle i ddarparu etifeddiaeth barhaol i Gymru drwy setliad datganoli sy'n gweithio."
Adroddiad ar Gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru.pdf (PDF,378KB)