Mae angen mwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y mae'n bwriadu gwario'r arian ychwanegol a glustnodwyd ar gyfer iechyd yn y gyllideb, yn ôl grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad.
Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud nad yw'n glir ai bwriad yr arian ychwanegol yw cau'r bwlch yng nghyllid iechyd neu wella gwasanaethau.
Canlyniad targedu'r arian ychwanegol hwn at y gyllideb iechyd, yn ôl aelodau'r Pwyllgor, yw toriadau i gyllidebau llywodraeth leol a'r trydydd sector - sectorau sy'n aml yn darparu gwasanaethau ataliol.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Eleni, mae'r Gweinidog Cyllid wedi dweud y bydd buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
"Rydym yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gosod ei blaenoriaethau ei hun, ond mae'r Pwyllgor yn poeni am effaith y gostyngiad yng nghyllidebau llywodraeth leol a'r trydydd sector.
"Mae llawer o'r gwasanaethau a ddarperir gan y sectorau hyn yn rhai ataliol, sy'n gallu lleihau'r angen i ddefnyddwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd.
"Er nad yw'r Pwyllgor yn dadlau y gellir defnyddio'r cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd yn effeithiol, rydym yn poeni bod diffyg tystiolaeth i ddangos y bydd yr arian ychwanegol yn arwain at ddiwygio, sydd mawr ei angen."
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud 16 argymhelliad fel rhan o'i waith craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae'r argymhellion eraill yn cynnwys:
- Darparu amcangyfrif realistig o'r costau, y manteision a'r amserlen ynghlwm wrth uno llywodraeth leol; a
- Dylai'r Llywodraeth gynnal adolygiad trylwyr o'r broses gyfredol ar gyfer costio deddfwriaeth a chynnwys y costau yn y gyllideb, er mwyn sicrhau bod holl ganlyniadau deddfwriaeth, gan gynnwys y costau, yn cael eu nodi. Canfu'r Pwyllgor fod cryn le i wella o ran sut y caiff deddfwriaeth ei chostio a sut mae'r costau amcangyfrifedig yn cael eu hadlewyrchu ym mhroses y gyllideb.
Adroddiad: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 (PDF, 986KB)