Atomfa Trawsfynydd.

Atomfa Trawsfynydd.

Atomfa Trawsfynydd.

Atomfa Trawsfynydd.

Angen penderfyniad ar Wylfa a Thrawsfynydd 'ar fyrder’

Cyhoeddwyd 21/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2024   |   Amser darllen munud

Mae angen i Lywodraeth y DU benderfynu ar ddyfodol datblygiad niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd ar fyrder, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae adroddiad diweddaraf Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn dadansoddi rôl ynni niwclear yn economi Cymru ac yn dod i'r casgliad  y byddai diwydiant niwclear llwyddiannus yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac yn arwain at fuddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd.

Buddsoddiad a swyddi

Gan fod ynni niwclear yn fater a gadwyd yn ôl i raddau helaeth, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i benderfynu ar ddyfodol Wylfa a Thrawsfynydd ar fyrder, yn enwedig gan nad oedd y cynllun ‘Civil Nuclear: Roadmap to 2050' yn crybwyll y naill safle na'r llall.

Os caiff y safleoedd yng ngogledd Cymru eu dewis i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o adweithyddion niwclear, fe allai hynny ddod â degau o filoedd o swyddi ychwanegol i’r ardal, yn ôl Cymdeithas y Diwydiant Niwclear.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn barod i sicrhau bod economi Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y sefyllfa os penderfynir datblygu’r diwydiant niwclear yn y gogledd.

Sgiliau a thai

Un o’r prif heriau a nododd y Pwyllgor yw’r angen i wella sgiliau’r gweithlu ar gyfer y sector niwclear.

Dywedodd y corff cyhoeddus Great British Nuclear fod yr angen i wella sgiliau ar gyfer y sector niwclear yn “syfrdanol”, ac mae hyn wedi arwain y Pwyllgor i alw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut y bydd yn gweithio gyda’r sector addysg a sgiliau i greu gweithlu sy'n barod i weithio yn y sector.

Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar y modd y byddai unrhyw ddatblygiad niwclear newydd yn debygol o ddenu llawer o weithwyr o'r tu allan i ogledd Cymru - gallai hynny roi pwysau ar y stoc dai lleol.

Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chynllunwyr tai os penderfynir buddsoddi yn y diwydiant niwclear.

"Adfywio economi gogledd Cymru"

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: “Mae hanes – a dyfodol posibl – y diwydiant niwclear yng ngogledd Cymru yn enfawr. Mae'r diwydiant eisoes yn gyflogwr mawr yn lleol, a gallai hyn gynyddu eto.

“Dyma pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y DU i benderfynu ynghylch y ddau safle ar fyrder er mwyn i bobl gogledd Cymru gael darlun clir o’r hyn y gall y dyfodol ei gynnig iddyn nhw. 

“Mae’n bosibl y gall Wylfa a Thrawsfynydd adfywio economi gogledd Cymru os cânt eu cynnwys yn y buddsoddiad niwclear, ond mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd wneud mwy i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad posibl yn llwyddiannus.

“Mae angen iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith nawr, gan wneud yn siŵr bod y gweithlu’n fedrus, yn arbenigol ac yn barod fel bod y cyfleoedd newydd yn gallu bod o fudd i bobl leol. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydweithio ag awdurdodau lleol a chymunedau i sicrhau nad yw’r stoc dai yn cael ei llethu.”

 


Mwy am y stori hon

Ynni niwclear ac economi Cymru. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Ynni niwclear ac economi Cymru