Angen rhagor o fanylion yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae angen rhagor o fanylion yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Wrth ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, roedd y Pwyllgor Cyllid wedi'i siomi wrth ganfod nad oedd agweddau fel y cyfraddau arfaethedig ar gyfer trethiant, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad dyled ddrwg, wedi'u cynnwys fel darpariaethau ar wyneb y Bil .

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o'r darpariaethau hyn, mae'r Pwyllgor yn parhau i bryderu nad yw is-ddeddfwriaeth yn wynebu cymaint o waith craffu ag y mae Bil.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan gymhwysir deddfwriaeth newydd ar gyfer trethi, ac y byddai cynnwys manylion o'r fath yn y ddeddf ei hun yn fodd i fynd i'r afael â'r pryderon.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell cynnwys Cynllun Cymunedau ar wyneb y Bil - clywodd y Pwyllgor lawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â phwysigrwydd y cynllun hwn, ac er iddo dderbyn y gellid nodi rhai o'r manylion mewn rheoliadau, byddai cynnwys darpariaeth ar wyneb y Bil yn dangos ymrwymiad i fwrw ymlaen â'r cynllun.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn codi nifer o bryderon ynghylch eglurder rhai o'r darpariaethau, gan gynnwys deunyddiau sy'n deillio o fwyngloddio a chwarela, pryd yn union y gwneir gwarediad trethadwy, a symud deunydd o waelod afon, môr neu ddyfroedd eraill. Mynegwyd rhagor o bryderon ynghylch y cyfnodau amser a ganiateir, a all fod hyd at 20 mlynedd, er mwyn talu treth ar warediadau heb eu hawdurdodi mewn achosion o'r fath yn y gorffennol.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Er nad yw'r Pwyllgor wedi cwestiynu'r angen am y ddeddfwriaeth drethi hon, mae wedi mynegi pryderon mewn nifer o feysydd, gan gynnwys nifer y pwerau a geir yn y Bil i lunio is-ddeddfwriaeth. Rydym yn pryderu nad yw is-ddeddfwriaeth yn wynebu cymaint o waith craffu ag y mae Bil, gan ein gorfodi fel Aelodau i ddewis yn blwmp ac yn blaen rhwng 'ie' neu 'na' o ran gwneud newidiadau.

"Mae'r Pwyllgor yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi galw am hyblygrwydd, ac mai dyma pam y mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau i wneud rheoliadau. Ond rydym yn cyfeirio at egwyddorion Llywodraeth Cymru ei hun o roi 'sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau'.

"Mae'n amlwg i ni fod system drethi sefydlog yn hanfodol i fusnesau yng Nghymru, ac nid yw cymaint â hyn o hyblygrwydd o ran pwerau i wneud rheoliadau yn bodloni egwyddorion Llywodraeth Cymru ei hun, gan arwain at y posibilrwydd o leihau hyder busnesau.

"Cawsom sylwadau gan nifer o randdeiliaid ynghylch y cynllun cymunedau arfaethedig, sy'n defnyddio rhywfaint o'r refeniw treth i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol ger safleoedd tirlenwi.

“Mae rhanddeiliaid yn hynod bryderus y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu'r cynllun y tu allan i'r Bil yn golygu na fydd y cyllid hwn yn cael ei ddiogelu. Rydym yn rhannu'r pryderon hyn, ac rydym wedi annog y Llywodraeth i gynnwys dyletswydd statudol yn y Bil i sefydlu cynllun cymunedau.

"Rydym hefyd wedi codi nifer o bwyntiau ynglŷn â drafftio'r Bil. Er ein bod yn gefnogol o'r bwriad sydd y tu ôl i rai o'r darpariaethau yn gyffredinol, daeth yn amlwg bod rhai o'r darpariaethau wedi'u copïo o ddeddfwriaeth bresennol, ac mewn gwirionedd gallai'r Bil hwn fod wedi rhoi cyfle i'r Llywodraeth wella'r darpariaethau sydd eisoes yn bodoli mewn perthynas â safleoedd tirlenwi.

Mae'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) wedi'i gyflwyno o dan bwerau trethi newydd a ddatganolwyd i'r Cynulliad o dan Ddeddf Cymru 2014.

Ar hyn o bryd, mae treth tirlenwi yn cyfrif am tua £35 miliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru, ond rhagwelir y bydd yn gostwng i tua £23 miliwn erbyn 2021/22 gyda'r nod amgylcheddol i anfon llai a llai o ddeunydd i safleoedd tirlenwi.

Bydd y Bil yn awr yn cael ei drafod gan y Cynulliad llawn cyn y cynhelir pleidlais i benderfynu a ddylid ei symud ymlaen i gyfnod 2 o broses deddfu'r Cynulliad.