Mae Cymru mewn perygl o golli buddsoddiad hanfodol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwella'r gefnogaeth y mae'n ei chynnig i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi yma ar frys, dyna rybudd adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Senedd.
Canfu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod haenau o fiwrocratiaeth, prosesau cynllunio anghyson a diffyg canllawiau clir yn golygu bod buddsoddwyr yn ei chael hi'n anodd llywio'r system.
Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:
“Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud hi’n glir bod gan Gymru botensial enfawr i ddenu a chadw buddsoddiad o’r radd flaenaf, ond dim ond os yw’r system gymorth mor glir, mor gydlynol ac mor ymatebol ag y mae busnesau angen iddi fod.
“Mae buddsoddwyr wedi dweud wrthym beth sy'n gweithio a ble mae'r rhwystrau. Bydd symleiddio prosesau, cryfhau sgiliau a darparu ôl-ofal cyson yn hanfodol os ydym am sicrhau'r swyddi a'r cyfleoedd y mae ein cymunedau'n eu haeddu.
“Heb gamau brys i gynnig cefnogaeth gliriach a mwy cydlynol, mae Cymru mewn perygl o syrthio ymhellach y tu ôl i gystadleuwyr. Rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn arwain Llywodraeth nesaf Cymru i weithredu'n bendant ac i helpu
Cymru i wireddu ei photensial economaidd llawn.
Galw am siop un stop
Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i greu gwasanaeth pwrpasol i symleiddio cymorth i fuddsoddwyr newydd a phresennol.
Dylai hwn fod yn wasanaeth tebyg i concierge i weithredu fel drws ffrynt i lywio a symleiddio'r broses a helpu i feithrin perthnasoedd hirdymor gyda chyflogwyr.
Dywedodd buddsoddwyr fod angen cyngor cliriach arnyn nhw ynghylch pa gymorth sydd ar gael — o gymorth hyfforddi i ostyngiadau a chymhellion treth.
Tynnodd y Pwyllgor sylw at sut mae ôl-ofal parhaus wedi helpu i gadw buddsoddwyr mawr yn y gorffennol, gyda Sony yn cael ei grybwyll yn enghraifft o sut y gall cefnogaeth ymarferol barhaus sicrhau degawdau o fuddsoddiad.
Nid yw addewidion a wneir mewn ffeiriau masnach yn cyfateb i gefnogaeth yn ôl adref bob amser
Clywodd y Pwyllgor ganmoliaeth gref i rwydwaith tramor Llywodraeth Cymru, sy'n hyrwyddo Cymru'n effeithiol ac yn creu cyfleoedd buddsoddi.
Ond rhybuddiodd yr Aelodau nad yw'r llwyddiant hwn yn cyfateb i’r hyn sy’n cael ei gyflawni ar lawr gwlad.
Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod ganddi gynllun i greu'r amgylchedd cywir i ddenu a chadw buddsoddwyr.
I wneud hyn mae angen iddyn nhw arddangos ein cryfderau drwy adeiladu ar y rhwydwaith tramor a gweithio gyda
Llywodraeth y DU, ymgysylltu â'n diaspora a chynnal uwchgynadleddau buddsoddi rheolaidd.
Ailsefydlu Ardaloedd a Gynorthwyir i gefnogi'r rhanbarthau tlotaf
Mynegodd yr Aelodau bryderon hefyd ynghylch colli Ardaloedd a Gynorthwyir ers 2020 — cefnogaeth a oedd yn hanesyddol wedi helpu rhannau llai llewyrchus o Gymru i gystadlu am fuddsoddiad.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ailgyflwyno statws Ardal a Gynorthwyir i hybu cymunedau sydd fwyaf mewn angen.
Prinder sgiliau yn atal twf
Mae prinder gweithwyr medrus yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i ddenu buddsoddwyr.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y corff sgiliau, Medr, yn gweithio'n agos gyda busnesau a mewnfuddsoddwyr i sicrhau bod pobl yn cael eu hyfforddi yn y meysydd cywir - yn enwedig mewn sgiliau galwedigaethol ac ar draws cadwyni cyflenwi busnesau bach a chanolig.