Angen rôl mwy eglur ar gyfer Byrddau Lleol Diogelu Plant yn ôl adroddiad pwyllgor
30 Tachwedd 2010
Mae gormod o ddryswch a diffyg gwybodaeth ynghylch rôl cyrff a sefydlwyd i helpu i ddiogelu plant yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Canfu’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol nad oedd rôl Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gwbl ddealladwy, eu bod yn gwahaniaethu mewn gwahanol ardaloedd ac, mewn rhai achosion, nad oedd rhai a oedd yn gweithio i asiantaethau a gynrychiolir ar y byrddau yn gwybod amdanynt hyd yn oed.
Sefydlwyd Byrddau Lleol Diogelu Plant i ddatblygu prosesau strategol i ddiogelu plant ac i warchod eu lles. Maent yn cynnwys unigolion ac asiantaethau sy’n cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu.
Deallodd y Pwyllgor mai blaenoriaeth y Byrddau Lleol Diogelu Plant yw diogelu plant ond mewn rhai achosion ychydig o ystyriaeth a roir i rôl ehangach byrddau o ran lles. Awgrymodd rhywfaint o’r dystiolaeth bod y byrddau, mewn sawl achos, yn fwy adweithiol na rhagweithiol yn eu strategaethau.
Codwyd pryderon hefyd ynghylch craffu ar sefydliadau gan y Byrddau Lleol Diogelu Plant ac ar brydiau mae’n bosibl bod cynrychiolwyr o gyrff sy’n cael eu hadolygu ar y Bwrdd – sy’n codi cwestiynau am allu i fod yn ddiduedd.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd bod gweithwyr rheng flaen, y rhai sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â phlant, teuluoedd a gofalwyr, yn aml heb fod yn gwybod am benderfyniadau neu strategaethau eu Bwrdd Lleol Diogelu Plant eu hunain, neu, mewn rhai achosion, nad oeddent hyd yn oed yn gwybod am ei fodolaeth.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: “Does dim amheuaeth ynghylch pwysigrwydd diogelu ein plant rhag niwed, nac ynghylch gwaith di-flino a chyfraniadau gwerthfawr nifer o bobl a sefydliadau sy’n gwneud hynny.
“Ond mae’r ymchwiliad hwn wedi dangos fod mannau annelwig o ran gofynion gwahanol swyddogaethau, ynghylch cyfrifoldebau ac atebolrwydd na ellir eu hanwybyddu.
“Mae cael canllawiau clir ar beth yn union y mae Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gyfrifol amdanynt, sut y maent yn mynd ati i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny a sut y mae’r penderfyniadau a wnânt yn cael eu gweithredu yn hanfodol.
“Clywodd fy nghydweithwyr ar y Pwyllgor a minnau am lawer o’r gwaith da a wneir gan Fyrddau Lleol Diogelu Plant. Ond os oes unrhyw amheuaeth ynghylch eu rôl ymhlith pobl ar y rheng flaen yn y sefydliadau hynny a gynrychiolir ar y bwrdd, mae angen mwy o ymdrech i wneud hynny’n eglur.”
DIWEDD