Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn dweud bod rhaid i les anifeiliaid fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniad ynghylch rasio milgwn.
Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y pryderon difrifol a godwyd ynghylch anafiadau, marwolaethau a lles, mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mabwysiadu dull mwy trylwyr, a arweinir gan dystiolaeth, wrth gyflwyno deddfwriaeth. Mae'r amserlen fyrrach wedi golygu nad oedd digon o amser i gael atebion amserol i gwestiynau allweddol, ac mae rhywfaint o ddryswch wedi parhau.
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Er bod y Bil yn ceisio gwahardd rasio milgwn ar sail lles anifeiliaid, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn anghyflawn ac yn hynod ddadleuol.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd y canlynol:
“Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid i les anifeiliaid fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniad ynghylch rasio milgwn, ond mae diffyg tystiolaeth glir wedi gwneud y gwaith o graffu ar y Bil yn anoddach.
“Gofynnwyd i ni graffu ar Fil gyda thystiolaeth anghyflawn a dadleuol, ac o fewn amserlen fyrrach. Nid dyna’r ffordd o wneud cyfraith dda. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymryd mwy o amser i gasglu data cadarn ac ymgynghori’n eang.”
Clywodd aelodau'r Pwyllgor ddadleuon cymhellol am y risgiau o anafiadau a marwolaethau ar y trac, a phryderon ynghylch lles drwy gydol bywyd milgwn – o fridio a chadw cŵn mewn cynel hyd at ymddeol. Tynnodd tystion sylw at faterion fel:
- Anafiadau a marwolaethau parhaus er gwaethaf rheoleiddio.
- Heriau lles y tu hwnt i rasio, gan gynnwys arferion bridio a phwysau ailgartrefu.
- Diffyg tryloywder a bylchau mewn data ar gyfraddau anafiadau a lles gydol oes.
Ychwanegodd Delyth Jewell AS:
"Rhaid i les milgwn barhau i fod o’r pwys mwyaf. Clywsom bryderon difrifol am anafiadau, marwolaethau a phroblemau lles systemig na allai rheoleiddio byth eu datrys yn llawn. Ar yr un pryd, rhaid inni gydnabod yr effaith bosibl ar y rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y gamp ac nid yw hyn wedi'i asesu'n llawn eto.
“Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mabwysiadu dull mwy trylwyr, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wrth gyflwyno deddfwriaeth.”
Nid yw'r adroddiad yn arddel safbwynt pendant ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gan adlewyrchu natur ddadleuol y dystiolaeth a chymhlethdod y materion. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i:
- Gynnal asesiad cynhwysfawr o'r effeithiau economaidd a chymdeithasol cyn i'r Bil ddod i rym.
- Galluogi cyhoeddi canllawiau statudol ar orfodi a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer awdurdodau lleol.
- Monitro canlyniadau anfwriadol posibl, gan gynnwys rasio dros y ffin ac effeithiau ar gapasiti ailgartrefu.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru esbonio'n glir sut a phryd y mae'n defnyddio dadleuon moesol wrth ddeddfu a'u cymhwyso'n gyson ar draws materion tebyg.
Mae'r Pwyllgor wedi edrych ar egwyddorion cyffredinol y Bil ac mae'n cyhoeddi ei adroddiad i helpu Aelodau o'r Senedd i benderfynu a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen. Os bydd y Bil yn mynd rhagddo, bydd newidiadau manwl i'r Bil yn digwydd yn ddiweddarach yng Nghyfnod 2.