Antures Arctig o Gymru yw seren Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2012
Tori James, sydd wedi anturio i Begwn y Gogledd, fydd prif siaradwr digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod sy’n cael ei gynnal gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Iau (8 Mawrth).
Prif thema’r digwyddiad fydd rôl menywod mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac fe fydd yn cael ei gynnal yn adeilad hanesyddol y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Bydd cynrychiolwyr yn mynd i seminar dros frecwast a chael trafodaeth panel yn y bore, cyn y ddarlith amser cinio.
Angharad Mair, Rheolwr Gyfarwyddwr Tinopolis, fydd yn cadeirio’r panel a bydd yr aelodau eraill yn cynnwys Kate Bennett ac Ann Beynon o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Laura McAllister sef Cadeirydd Chwaraeon Cymru, a Claire Clancy sef Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tori James fydd yn rhoi’r ddarlith amser cinio. Yn 2007, hi oedd y fenyw ifancaf o Brydain a’r fenyw gyntaf o Gymru i ddringo Mynydd Everest. Yn 2005, arweiniodd dîm o fenywod yng nghystadleuaeth Her y Pegwn, sef ras 360 milltir i Begwn Magnetig y Gogledd.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae’n wych cael rhywun mor ysbrydoledig â Tori i siarad yn ein digwyddiad i ddathlu Diwrnod y Menywod.”
“Mae’n bleser gweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Cyngor Prydeinig, Sefydliad Materion Cymreig a Llamau, elusen ar gyfer pobl ifanc digartref, sydd oll wedi cynorthwyo gyda’r digwyddiad hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at glywed am brofiadau Tori a chyngor a barn yr holl siaradwyr sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd ac sy’n ysbrydoliaeth i bobl eraill.”
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu’r cynnydd sydd wedi bod tuag at gydraddoldeb rhwng dynion a menywod. Mae’n bleser cael dathlu’r digwyddiad hwn ochr yn ochr â’r Llywydd.
“Mae’r diwrnod hefyd yn gyfle i bwysleisio’r gwaith sydd angen ei wneud o hyd os ydym am greu Cymru sydd yn hollol deg i fenywod.
“Mae ein tystiolaeth yn dangos nad oes gan fenywod gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi uwch yng Nghymru ac mae gormod o fenywod wedi’u cyfyngu i swyddi sy’n talu cyflogau isel.
“Mae’r nodau ar gyfer cael cyflog teg a gwell cyfleoedd cyflogaeth i fenywod a bennwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf yn 1911, yr un mor bwysig ag erioed.”
Yn ogystal â mynd i seminarau a’r ddarlith amser cinio fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn gwylio fideos o Aelodau’r Cynulliad yn rhoi eu barn am yr hyn y mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei olygu iddynt hwy.
Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n brawf o ymroddiad y Llywydd i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.