Ar beth y dylai Llywodraeth Cymru wario £15.9 biliwn?

Cyhoeddwyd 10/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2015

WelshGov.JPG 
​Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i bobl ar beth, yn eu barn nhw, y dylai Llywodraeth Cymru wario ei chyllideb o £15.9 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a pha un a all gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth yn 2016-17.
Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn trafod materion sy'n cynnwys:
  • Paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer pwerau a ddatganolir yn y dyfodol o dan Fil Cymru;
  • Arian a ddyrennir i fyrddau iechyd lleol i redeg ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu a gwasanaethau iechyd eraill; a
  • pholisïau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi a lliniaru effeithiau'r diwygiadau i'r gyfundrefn les.
Bydd y Pwyllgor yn gofyn hefyd pa effaith a gafodd cyllideb 2015-16, a pha mor barod, yn ariannol, ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd yw sefydliadau sy'n derbyn cyllid y llywodraeth.

"Mae £15.9 biliwn yn arian mawr, ond mae'n dasg anodd i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf arno," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Byddwn yn ystyried effaith cyllideb eleni, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer y pwerau a'r cyfrifoldebau y gellid o bosibl eu datganoli trwy Fil Cymru, sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â thlodi, a sut y mae byrddau iechyd lleol yn bwriadu defnyddio'r arian ychwanegol a gânt i wella'r gwasanaethau yn eu hardaloedd."

7 Ionawr 2016 yw'r dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriad y Pwyllgor.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad anfon e-bost i seneddcyllid@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
 
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid ar gael yma.