Arbenigwraig uchel ei pharch ym mywyd cyhoeddus Cymru yn cael ei phenodi i Fwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 15/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Cyhoeddodd Claire Clancy, Clerc a Phrif Weithredwr y Cynulliad, ei bod wedi penodi yr Athro Laura McAllister i fod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Claire Clancy: "Rwyf wrth fy modd bod yr Athro McAllister wedi cytuno i ymuno â’r Bwrdd. Mae ganddi gymwysterau gwych ar gyfer y rôl hon - gwybodaeth ddofn a dealltwriaeth o wleidyddiaeth a gwleidyddion, arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol, a barn gydnabyddedig ar y lefelau uchaf mewn bywyd cyhoeddus."

Mae Laura McAllister yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru, ac yn arbenigwr academaidd blaenllaw ar ddatganoli, polisi cyhoeddus a gwleidyddiaeth Cymru. Roedd hefyd yn aelod o Gomisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyflwynodd adroddiad ym mis Mawrth 2004.

Mae’r Bwrdd Taliadau yn gorff statudol annibynnol, a’i rôl yw pennu pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ei benderfyniad ar bob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad nesaf, sydd i gael ei ethol ym mis Mai 2016, yn nhymor y gwanwyn 2015.