People walking past the Senedd signage

People walking past the Senedd signage

Arbenigwyr cynhwysiant a pholisi yn ymuno â bwrdd cynghori’r Senedd

Cyhoeddwyd 28/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae tri arbenigwr sydd â phrofiad helaeth ym meysydd llywodraethiant, polisi a chynhwysiant wedi eu penodi i ddarparu cyngor annibynnol i Gomisiwn y Senedd.

Bydd Mark Egan, yr Athro Uzo Iwobi a Menai Owen-Jones yn ymuno â’r panel annibynnol, sy’n cynnwys pum arbenigwr yn eu maes, sy’n rhannu cyfoeth o brofiad o fewn llywodraeth, y sector gyhoeddus ac fel aelodau o fyrddau rheoli ar y lefelau uchaf.

Mae’r Cynghorwyr Annibynnol yn helpu i sicrhau bod Comisiynwyr ac uwch dîm rheoli’r Comisiwn yn cael eu cynorthwyo a’u herio mewn modd adeiladol wrth eu gwaith. Maent yn cyfrannu at nifer o weithgareddau a gwasanaethau’r Comisiwn, gan ddod â safbwynt allanol a barn annibynnol gyda hwy o strwythur rheoli’r Comisiwn.

Mae Comisiwn y Senedd yn defnyddio arbenigedd y Cynghorwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dulliau rheoli perfformiad a threfniadau adrodd a chadw golwg feirniadol ar ddulliau rheoli ariannol a gweithdrefnau rheoli risg y Comisiwn.

Meddai Dr Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru; “Rydym yn croesawu’r tri chynghorydd annibynnol newydd a fydd yn cynnig cyfoeth o brofiad a phersbectif gwahanol i’r rôl. Bydd eu cyfraniad amhrisiadwy yn cynnig cefnogaeth gadarn i Gomisiynwyr y Senedd a’r tîm rheoli i gynnal llywodraethu da ar draws pob gwasanaeth.”

Bydd Mark Egan, yr Athro Uzo Iwobi a Menai Owen-Jones yn dechrau eu rolau newydd fel cynghorwyr annibynnol i Gomisiwn y Senedd ddydd Llun 28 Tachwedd.

Byddant yn ymuno â’r ddau gynghorydd presennol Aled Eurig a Robert (Bob) Evans, gan gymryd lle’r tri aelod blaenorol, Ceri Hughes, Sarah Pinch ac Ann Beynon, sydd wedi gwasanaethu ers 2018.

Mark Egan 

Mark Egan oedd prif weithredwr senedd Jersey (yn dal y teitl ‘Greffier of the States of Jersey’) o 2015 tan 2022. Cyn hynny bu’n gweithio mewn uwch rolau yn Nhŷ’r Cyffredin, gan gynnwys arwain y tîm a sefydlodd Wasanaeth Digidol y Senedd yn 2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Hanes y Senedd am 10 mlynedd ac mae wedi arwain gwaith mewn seneddau ar amrywiaeth mewn arferion recriwtio. Wedi cymhwyso mewn rheoli newid a chyfryngu, ers gadael Jersey mae Mark wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i lywodraethau Jersey a San Helena yn ogystal â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Mae'n aelod cyswllt o'r Ganolfan Llywodraethu a Chraffu ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr dros dro Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Caeredin.

Uzo Iwobi

Yr Athro Uzo Iwobi CBE, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Race Council Cymru; cyn Gynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, 2019-2021; a chyn Gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol; cyn hynny bu’n gwasanaethu fel cynghorydd i’r 43 o heddluoedd yn y DU drwy wasanaethu fel cynrychiolydd ACPO a 43 o heddluoedd ar Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu a oedd yn grŵp teiran strategol cenedlaethol wedi’i leoli yn y Swyddfa Gartref.

Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria a chymhwysodd fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr a chafodd ei galw i Far Nigeria. Uzo yw sylfaenydd Canolfan Gymunedol Affricanaidd Cymru, a Race Council Cymru lle mae’n gwasanaethu fel prif weithredwr ac yn eistedd ar fwrdd sawl mudiad gwirfoddol. Roedd Uzo yn Gomisiynydd i Gomisiwn y Canmlwyddiant a sefydlwyd gan Theresa May yn 2018 ac mae Uzo yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, ac yn Ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Frenhinol y Gymanwlad Cymru. Uzo yw sylfaenydd Fforwm Polisi Black Lives Matter Cymru, ymgyrch ZeroRacismWales, sylfaenydd Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru ac un o sylfaenwyr Hanes Pobl Dduon Cymru. Lansiodd a hwylusodd y dathliad Windrush cyntaf yng Nghymru yn 2018. Dyfarnwyd CBE i Uzo am wasanaethau i gydraddoldeb hiliol a hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant.

Menai Owen-Jones

Mae Menai yn Gyfarwyddwr Siartredig, yn Brif Weithredwr arobryn yn y sector cymdeithasol ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol. Mae’n Llywodraethwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi’i hethol yn Gyd-Is-Gadeirydd ar gyfer 2021-22.

Menai oedd Prif Weithredwr The Pituitary Foundation, elusen iechyd ar draws y DU, tan fis Medi 2021. Arweiniodd newid trawsnewidiol a chynaliadwy yn llwyddiannus yn ystod ei deng mlynedd yn y swydd, gan sefydlu’r sefydliad fel un sy’n arwain yn ei faes ledled y byd.

Am yr ugain mlynedd diwethaf, mae Menai wedi cyfrannu’n helaeth at gymdeithas sifil yng Nghymru, a’r Deyrnas Unedig, fel gwirfoddolwr ac fel gweithiwr cyflogedig. Mae Menai yn frwd dros arweinyddiaeth gynhwysol ac mae ganddi ddiddordebau, rhwydweithiau a phrofiadau eang ar draws sawl disgyblaeth a sefydliad.

Mae Menai yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) a Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Mae hi ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Race Council Cymru a Daring to Dream. Tan yn ddiweddar bu hefyd yn gwasanaethu ar fwrdd yr ACEVO (Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol) ac fel aelod o Fwrdd Cynghori Samariaid Cymru.