Mae rhesi o ddarnau ffabrig sgwâr bach mewn gwyn, llwyd a choch yn hongian mewn llinynnau fertigol, gan greu effaith llen haenog yn erbyn cefndir coch.

Mae rhesi o ddarnau ffabrig sgwâr bach mewn gwyn, llwyd a choch yn hongian mewn llinynnau fertigol, gan greu effaith llen haenog yn erbyn cefndir coch.

Arddangosfa sy'n archwilio democratiaeth, hunaniaeth a phŵer un bleidlais

Cyhoeddwyd 21/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/03/2026   |   Amser darllen munudau

Mae'r Senedd yn cynnal arddangosfa newydd amserol, sef Pwytho Llais (Stitching a Voice), gan yr artist tecstilau o Gymru Bethan M. Hughes, yn Oriel y Dyfodol, y Pierhead ym Mae Caerdydd rhwng 21 Mawrth a 1 Gorffennaf 2026.

Gyda dim ond 47 diwrnod i fynd tan etholiad hanesyddol ar 7 Mai, mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd themâu democratiaeth, hunaniaeth, cymuned a mynegiant creadigol ac yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyfyrio ar sut y gall marc syml adrodd straeon cymhleth am bwy ydym ni - a sut rydym yn llunio ein dyfodol cyffredin.

Mae gwaith Bethan wedi'i wreiddio yn nhreftadaeth gyfoethog cynlluniau cwiltiau traddodiadol Cymru, ac yn defnyddio trwch o bwythau, palet lliw cyfyngedig trawiadol a darnau gosodwaith ar raddfa fawr i archwilio pŵer a breuder democratiaeth heddiw.

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: “Mae’r Senedd yn falch o gynnal yr arddangosfa hon, sy'n amserol ac yn ysgogi barn.

“Mae archwilio hunaniaeth, mynegiant a chymuned yn teimlo’n arbennig o atseiniol wrth i ni agosáu at etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.”

Archwilio'r 'X' sy'n llunio ein dyfodol

Nodwedd ganolog yr arddangosfa yw'r marc symbolaidd 'X' — a ddefnyddir i bleidleisio, fel mynegiant cadarnhaol neu negyddol, neu hyd yn oed symbol o gusan. Mae llawer o gwiltiau yn y casgliad yn defnyddio'r symbol bach ond grymus hwn i archwilio cyfranogiad democrataidd a mynegiant personol.

Mae'r arddangosfa, a ddangoswyd gyntaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, yn annog pobl i ystyried ymgyrchu, deisebu, pleidleisio, a'r hawl i bleidleisio. Mae Bethan yn creu darn newydd ar gyfer arddangosfa’r Pierhead, sef 'Ehangu', wedi'i ysbrydoli gan y newidiadau cyn etholiad 2026, i gynrychioli'r strwythur etholiadol newydd a'r bobl a fydd yn llunio pennod nesaf Cymru. 

 

Bethan M. Hughes

Dywedodd Bethan M. Hughes: “Rwyf wrth fy modd yn dangos y gwaith hwn yn y Senedd, yn enwedig ar yr adeg benodol hon.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn annog ymwelwyr i feddwl am y fraint o gael pleidlais, llais, a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, a sut y gall pob llais unigol gyfrannu at ddyfodol ein cenedl.

“Rwy’n gobeithio’n arbennig y bydd yn ysbrydoli pobl ifanc, gan y bydd rhai ohonynt yn pleidleisio am y tro cyntaf.”

 

 

 

Etholiad y Senedd 2026

Ar 7 Mai 2026, bydd pleidleiswyr yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio i bleidleisio yn seithfed etholiad y Senedd ers datganoli ym 1999.
Mae etholiad 2026 yn cyflwyno rhai newidiadau mawr i system ddemocrataidd Cymru:

  • 96 o Aelodau: O'r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
  • System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
  • Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll etholiad fyw yng Nghymru.

Mae'r diwygiadau hyn yn grymuso gwaith craffu, yn gwella cynrychiolaeth ac yn cryfhau lleisiau cymunedau wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol.  

Mwy am y stori yma

Darllenwch fwy am yr arddangosfa

Beth arall sydd i'w weld yn y Senedd

 

Lluniau: Dewi Tannatt Lloyd