Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ymchwiliad heddiw i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.
Bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i ganfod a yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth yn arloesol ac a yw'n cefnogi ac annog y defnydd o dechnoleg newydd yn ddigonol.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu Strategaeth Drafnidiaeth nesaf Cymru tra bod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi ymrwymo Cymru i leihau allyriadau carbon yn sylweddol. Mae'r Pwyllgor am edrych i weld a yw'r targedau hyn a osodwyd gan y Llywodraeth yn gyraeddadwy ac yn ddigon uchelgeisiol.
Dros y misoedd nesaf, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr amgylcheddol, sefydliadau trafnidiaeth a Llywodraeth y DU o ran y ffordd orau o fynd i'r afael ag allyriadau carbon o drafnidiaeth.
Dywedodd Russell George AC, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: “Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac, er mwyn inni anrhydeddu hyn, mae angen gweithredu, ac nid geiriau’n unig, gan Lywodraeth Cymru. Mae angen inni sicrhau bod y targedau a osodir yn uchelgeisiol ac yn cyd-fynd â'r safonau yr ydym yn eu gosod i ni ein hunain.
“Gwyddom fod trafnidiaeth yn ffynhonnell sylweddol o allyriadau carbon. Fel cenedl, os ydym am gyrraedd ein targedau lleihau, mae angen inni fod yn arloesol - mae angen inni hyrwyddo’r dechnoleg werdd ddiweddaraf, a’i chefnogi.
Rwy’n annog pobl i ymateb i'n hymgynghoriad er mwyn i ni helpu i ddeall yn well sut y gallwn leihau allyriadau carbon a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 16 Awst, a bydd y Pwyllgor yn trafod ei dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Medi cyn penderfynu pa feysydd penodol i ganolbwyntio arnynt mewn gwrandawiadau Pwyllgor yn ddiweddarach yn ystod tymor yr Hydref.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn edrych ar ddatgarboneiddio trafnidiaeth ac mae wedi cynnal ymchwiliadau yn y gorffennol i bwyntiau gwefru cerbydau trydan ac effeithiolrwydd deddfwriaeth Teithio Llesol.