Assembly Committee backs proposal to obtain powers to make laws on organ donation

Cyhoeddwyd 04/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi cynnig i gael pwerau i wneud cyfreithiau ar roi organau

4 Chwefror 2011

Mae grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi cefnogi, mewn egwyddor, gynnig i gael pwerau a fyddai’n galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfreithiau ar roi organau yng Nghymru.

Byddai Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) 2011 yn ei gwneud yn bosibl i gynnig cyfreithiau newydd ar gael system o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu defnyddio’r pwerau i gyflwyno system ymeithrio feddal o gydsyniad tybiedig.

Mae hyn yn golygu y bydd meddygon yn gallu tynnu organau o bob oedolyn sy’n byw ac yna’n marw yng Nghymru pan fo’r gyfraith yn gymwys iddo, oni fydd y person

wedi cofrestru i ymeithrio; ond byddai meddygon yn mabwysiadu’r arfer da o

ofyn i’r perthnasau gydsynio ar adeg y farwolaeth. Byddai’r system dewis rhoi organau bresennol yn y DU yn parhau i fod yn gymwys ochr yn ochr â’r trefniadau newydd.

Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn nodi mai i bobl 18 oed neu’n hyn yn unig y bydd y cyfreithiau newydd yn gymwys.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1: “Cafodd y Pwyllgor gefnogaeth gryf o blaid cydsyniad tybiedig gan nifer o sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd yn ystod ein hymchwiliad.

“Ond nid oedd y gefnogaeth yn unfrydol ac oherwydd natur emosiynol a sensitif rhoi organau, mae un o’n hargymhellion yn galw am ddatblygu rhaglen addysgu gyhoeddus fel rhan o’r ddeddfwriaeth a fyddai’n cael ei chyflwyno yn sgil y Gorchymyn arfaethedig.”

DIWEDD