Assembly committee considering new law to relieve housing pressure in Wales – have your say

Cyhoeddwyd 23/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn ystyried cyfraith newydd i leihau’r pwysau ar y cyflenwad o dai yng Nghymru - mynegwch farn

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn beth mae pobl yn ei feddwl am gyfraith arfaethedig a fyddai’n rhoi i Weinidogion Cymru y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth 2 yn trafod y Mesur arfaethedig a fyddai’n rhoi i Weinidogion Cymru y pwer i atal dros dro yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael sydd gan denantiaid darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru mewn ardaloedd lle mae’r cyflenwad o dai dan bwysau.

Byddai’r Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi i Weinidogion Cymru amrywiaeth o bwerau ymyrryd a fyddai’n gwella’r broses o reoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, i gyd-fynd â’r pwerau sydd eisoes ar gael i’r rheoleiddiwr yn Lloegr.

Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae tai cymdeithasol yn fater sy’n effeithio ar lawer o bobl ledled Cymru.

“Mae’r Pwyllgor yn gofyn i bartïon sydd â diddordeb a fydd y Mesur arfaethedig yn cyflawni ei amcan o leihau’r pwysau ar dai cymdeithasol yng Nghymru ac a oes unrhyw rwystrau posibl i roi’r darpariaethau ar waith.”

Ewch i i weld yr holiadur a baratowyd gan y Pwyllgor.

Fel arall, gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth ysgrifennu at Glerc Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 5 Ionawr 2011.

Ewch i wefan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth bellach am y Mesur arfaethedig, a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yn.