Assembly committee urges minister to use existing powers to halt motorway chaos

Cyhoeddwyd 17/02/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn annog gweinidog i ddefnyddio’r pwerau presennol i roi terfyn ar yr anhrefn ar ein traffyrdd

Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw ar y Gweinidog Trafnidiaeth i greu swyddogion traffig pwrpasol yng Nghymru er mwyn ceisio arbed anhrefn ar y traffyrdd yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, yr heddlu sy’n gyfrifol am reoli traffig ar brif ffyrdd Cymru er bod tîm pwrpasol o swyddogion rheoli traffig yn Lloegr eisoes.

Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi eisoes i sefydlu gwasanaeth tebyg yng Nghymru.

“Mae gan Gymru ddau brif goridor fel rhan o’i rhwydwaith ffyrdd” meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae tagfeydd yn dueddol o effeithio ar yr M4 yn y De, a’r A55 yn y Gogledd, oherwydd digwyddiadau difrifol a mân ddigwyddiadau, ac oherwydd maint y traffig.

“Mae goblygiadau cymdeithasol ac economaidd i ddigwyddiadau o’r fath, sy’n peri mwy o broblem yng Nghymru nag yn Lloegr o gofio’r anawsterau sy’n cael eu creu gan ddaearyddiaeth a thopograffeg Cymru a’r ffaith nad yw systemau rheoli rhwydweithiau wedi datblygu i’r un graddau yma.”

Dyna pam mae’r Pwyllgor yn annog y Gweinidog i ddefnyddio’r pwerau sy’n bod eisoes o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i greu Gwasanaeth Swyddogion Traffig pwrpasol yng Nghymru.  

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell:

  • y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei pholisi presennol yng nghyswllt parthau 20mya gan ystyried sut y mae cynlluniau creu parthau wedi gwella’r sefyllfa yng ngogledd Ewrop.

  • bod Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â rhanddeiliaid eraill i sicrhau eu bod yn datblygu rhaglen dysgu gyrru o safon ar gyfer ysgolion i adlewyrchu cynnwys y Maniffesto Plismona Ffyrdd.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn ar ôl ystyried y Maniffesto Plismona Ffyrdd drafft.

Cymerodd yr Aelodau dystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a chyrff sydd â diddordeb yn y maes gan gynnwys Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO), yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) a’r Gwasanaeth Tân.

Dogfen bolisi ar y cyd fydd y maniffesto, a gaiff ei mabwysiadu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r pedwar Prif Gwnstabl yng Nghymru.

Gobeithio y bydd y cydweithrediad hwn yn gwella’r system rheoli ffyrdd, yn enwedig ar y prif rwydwaith ffyrdd strategol.