Beicwyr y Cynulliad Cenedlaethol yn cychwyn ar daith codi arian o un pen o Gymru i’r llall
Mae tîm o staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cychwyn ar daith feicio elusennol 250 milltir o hyd o swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn i’r Senedd yng Nghaerdydd.
Nod y tîm o 11 o feicwyr yw cwblhau’r daith, a fydd yn dilyn llwybr Lon Las Cymru gan mwyaf, mewn pum diwrnod gan gyrraedd y Senedd ar 19 Awst.
Mae £1,000 wedi cael ei gasglu hyd yma i Ymchwil Canser Cymru a hosbis plant Ty Hafan ym Mro Morgannwg, gyda’r nod o godi cyfanswm o £2,000.
Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Hoffwn ddymuno lwc dda i bawb sy’n cymryd rhan ar drothwy’r hyn sy’n ymddangos yn daith anodd.”
“Mae’n wych gweld staff y Cynulliad yn ymrwymo i’r ymgais hon i godi arian ac yn casglu arian ar gyfer y fath achosion da.”
Un o aelodau’r tîm yw John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau, a gwblhaodd daith feicio heriol 10,000 kilometr o hyd o Gaerdydd i Dwrci ac yn ôl y llynedd.
Dywedodd John, sy’n dod o Rhydri, ger Caerffili: “Rwyf wrth fy modd yn gweld cynifer o’m cydweithwyr yn cymryd rhan yn y daith hon i godi arian.
“Nid oes yr un o’r beicwyr sy’n cymryd rhan yn aelod o glwb beicio ac, i’r rhan fwyaf ohonynt, dyma’r tro cyntaf iddynt ymgymryd â thaith feicio o’r hyd hwn.
“Felly, hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion a’u hymrwymiad i godi arian ar gyfer y ddwy elusen hyn.”
Croesewir cyfraniadau pellach a gellir cyfrannu drwy wefan:
Mae disgwyl i’r beicwyr gyrraedd y Senedd am 14.00 ar 19 Awst.