Beth yw eich barn am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog?

Cyhoeddwyd 23/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Beth yw eich barn am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog?

23 Gorffennaf 2010

Mae ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru’n cael ei gynnal i ganfod pa gymorth sydd ar gael i helpu cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn edrych ar sut y gellir canfod pa gyn-filwyr sy’n dioddef o PTSD a’u trin ac a oes cymorth addas ar gael ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd a’u gofalwyr.  

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried safon y gwasanaethau sydd ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru a’r trefniadau ariannu, gan gynnwys y rheini â phartneriaid fel y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau gwirfoddol.  

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: “Mae’r bobl sy’n peryglu eu bywydau, a hynny’n wirfoddol, i amddiffyn ein gwlad a’n ffordd o fyw yn haeddu’r holl gymorth sydd ei angen arnynt.

“Mae’n anodd canfod pwy sy’n dioddef o straen wedi trawma oherwydd, yn aml, effeithir ar gyn-filwyr ar adegau gwahanol, a bydd nifer ohonynt yn anwybyddu’r symptomau pan fyddant yn ymddangos neu ni fyddant yn eu deall.  

“Bydd fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor a minnau yn edrych ar sut y gellir canfod pwy sy’n dioddef o PTSD a beth yw’r camau nesaf y dylid eu cymryd, a byddwn yn siarad â nifer o sefydliadau ac asiantaethau fel rhan o’r ymchwiliad hwn.

“Bydd cyflwyniadau personol gan bobl yr effeithiwyd arnynt gan y cyflwr hwn neu sy’n defnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yn werthfawr iawn wrth i ni ystyried ein canfyddiadau.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaethau hyn i roi ei farn amdanynt.”

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol anfon e-bost at health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.