Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf

Cyhoeddwyd 15/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae’r Bil a fydd yn cyflwyno enw newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn rhoi’r hawl i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn Etholiadau Cyffredinol Cymru bellach wedi dod yn Ddeddf Cynulliad. 

Ar ddydd Mercher 15 Ionawr, fe dderbyniodd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ei Gysyniad Brenhinol yna’i drosglwyddo’n swyddogol i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Manon Antoniazzi gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. 

Roedd trosglwyddo’r Bil i ofal Clerc y Cynulliad yn Siambr y Senedd yn gam hanesyddol sy’n golygu fod y Bil bellach yn Ddeddf. 


Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Manon Antoniazzi, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford


Ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw, fe gyhoeddodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, statws y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) newydd.

Fodd bynnag, ni fydd y newidiadau – sy’n cynnwys cyflwyno’r enw newydd Senedd Cymru / Welsh Parliament a rhoi’r bleidlais i ddinasyddion tramor a phobl ifanc 16 ac 17 oed  - yn cael ei weithredu tan fis Mai 2020. 

Meddai Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae’n fraint nodi’r bennod arwyddocaol hon yn stori ein Cynulliad gyda phasio Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn Ddeddf Cynulliad. 

“Ym mis Mai mi fydd gennym enw newydd, a fydd yn adlewyrchu ein statws fel deddfwrfa aeddfed, yn ogystal â’r estyniad mwyaf i’r hawl i bleidleisio ers 1969 - yn enwedig rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’n destun y balchder mwyaf gweld y Cynulliad yn esblygu er mwyn parhau ar ei orau i wasanaethu pobl Cymru.”