Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Datganiad gan y Llywydd, Elin Jones AC

Cyhoeddwyd 14/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2019


Datganiad gan y Llywydd, Elin Jones AC

"Rwy'n falch o weld y Bil Senedd ac Etholiadau yn symud gam yn nes at derfyn ei daith ddeddfwriaethol.

Mae'n galonogol fod y mwyafrif o Aelodau Cynulliad yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn cyfnod gwleidyddol mor arwyddocaol.

Mae'r Senedd Ieuenctid wedi creu argraff arbennig yn ei blwyddyn gyntaf ac yn dyst i ganlyniadau cadarnhaol rhoi llais i'n pobl ifanc. Bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn adeiladu ar y gwaith hwn.

Bydd cyfnod olaf y Bil yn cael ei drafod mewn pythefnos ac rwy'n mawr obeithio y bydd o leiaf dau draean o ACau yn cynnig eu cefnogaeth er mwyn cymeradwyo'r mesur pwysig hwn."

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y Rhaglen Ddiwygio’r Cynulliad yma.