#BIMR2014 – Pobl ifanc yn ymuno â'r Dirprwy Lywydd i drafod ymgysylltiad â phobl ifanc
28 Mai 2014
Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cadeirio Cyfarfod Llawn yng nghynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir (BIMR) yn siambr y Senedd ar y 29 Mai.
Mae'r sesiwn, sef "Cynnwys dinasyddion ifanc yn y broses ddemocrataidd", yn un o themâu allweddol y gynhadledd lle bydd 60 o seneddwyr ledled y Gymanwlad yn bresennol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaeth lle bydd timau o Ysgol Gyfun Radur, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd ac Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman yn cynnal trafodaeth.
Pwnc y drafodaeth yw “Cred y Ty hwn bod pleidiau gwleidyddol ar hyn o bryd yn methu ag ymgysylltu â phobl ifanc”.
Yn ôl y Dirprwy Lywydd: "Mae'r diffyg ymgysylltiad yn y broses wleidyddol ar ran pobl ifanc yn broblem a wynebir gan ddemocratiaethau ym mhob cwr o'r byd.
"Yma yng Nghymru, mae'r Llywydd wedi sicrhau bod ymgysylltu â phobl ifanc yn un o brif amcanion y Cynulliad Cenedlaethol yn y Pedwerydd Cynulliad.
"Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad ledled Cymru gyda phobl ifanc yn gofyn iddynt beth yw'r ffordd orau inni gyfathrebu â hwy - a chyda dros 3,000 o ymatebwyr, dyma'r ymateb mwyaf rydym erioed wedi'i gael i un o ymgynghoriadau'r Cynulliad.
"Mae hyn yn profi bod pobl ifanc yn awyddus i ymgysylltu a'r gobaith yw y bydd y sesiwn hon yn ein harwain at ganfod mwy o ffyrdd o estyn allan a gwneud y Cynulliad yn fwy perthnasol i bobl ifanc yng Nghymru."
Cynhelir cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir (BIMR) Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y Senedd dros ddau ddiwrnod.
Bydd seneddwyr o ddeddfwrfeydd cyn belled â Cyprus, yr Ynysoedd Falkland, St Helena a Malta; yn ogystal â chynrychiolwyr o seneddau eraill y DU, yn bresennol mewn ymgais i rannu arfer gorau.
Ychwanegodd Joyce Watson AC, Cadeirydd cangen o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru: "Pobl ifanc yw democratiaeth y dyfodol ac mae'n hanfodol sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chyrff seneddol.
"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud llawer o waith gyda phobl ifanc drwy ei dimau addysg ac allgymorth ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio pob ysgogiad a thechneg i ymgysylltu â hwy.
"Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i gynrychiolwyr BIMR rannu arfer gorau."
Gellir gwylio'r sesiwn hon ar Senedd TV drwy glicio yma.