#BIMR2014 – Y Llywydd i gadeirio sesiwn ar Fenywod mewn Bywyd Cyhoeddus
22 Mai 2014
Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cadeirio Cyfarfod Llawn yng nghynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir (BIMR) yn siambr y Senedd ar 28 Mai.
Mae'r sesiwn, sef "Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus", yn un o themâu allweddol y gynhadledd lle bydd 60 o seneddwyr ledled y Gymanwlad yn bresennol.
Cynhelir cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir (BIMR) Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y Senedd dros ddau ddiwrnod.
Bydd seneddwyr o ddeddfwrfeydd cyn belled â Cyprus, yr Ynysoedd Falkland, St Helena a Malta; yn ogystal â chynrychiolwyr o seneddau eraill y DU, yn bresennol mewn ymgais i rannu arfer gorau.
Cyn y sesiwn, dywedodd y Fonesig Rosemary: "Rwyf wedi bod yn cynnal fy Ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus (#POWiPL) yng Nghymru am dros ddwy flynedd.
"Y nod yw annog mwy o fenywod yng Nghymru i wneud swyddi cyhoeddus a bod yn gynghorwyr, yn llywodraethwyr ysgol neu'n ynadon er enghraifft.
"Rydym wedi mynd i'r afael â hyn drwy ymgysylltu â menywod ledled Cymru ac ymateb i'w gofynion, fel sefydlu porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus ar y we, sy'n rhoi cyngor i fenywod ar sut i fynd ati i wneud swyddi cyhoeddus.
"Rwyf hefyd wedi sefydlu'r cynllun datblygu #POWiPL sy'n ceisio annog rhagor o fenywod i wneud cais am benodiadau cyhoeddus, a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus, drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer mentora, cysgodi pobl mewn rolau penodol, a chyfleoedd i hyfforddi.
"Dyna beth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater, ond mae'r BIMR yn rhoi cyfle i rannu syniadau â seneddau eraill y Gymanwlad ac efallai ddysgu am ddulliau gwahanol."
Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, a Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, fydd gweddill yr aelodau ar y panel trafod.
Mae Joyce Watson AC, Cadeirydd cangen y Cynulliad Cenedlaethol o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad hefyd yn cynrychioli'r Cynulliad ar Bwyllgor rhanbarthol Seneddwragedd y Gymanwlad.
Ychwanegodd: "Fel y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n bleser gennyf, ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, groesawu cynrychiolwyr o bob rhan o'r Gymanwlad i rannu arfer gorau ar fater sydd mor bwysig.
"Fel sefydliad, wnaethon ni ddim cystal yn yr etholiad diwethaf o ran nifer yr Aelodau benywaidd, felly mae'n amlwg bod llawer mwy o waith i'w wneud o hyd i annog rhagor o fenywod i wneud cais am swydd gyhoeddus."
Gellir gwylio'r sesiwn ar Senedd TV drwy glicio yma.