Blwyddyn arloesol o ymgysylltu - Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2018-19

Cyhoeddwyd 17/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2019

Mae Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru wedi ardystio cyfrifon Comisiwn y Cynlliad ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Yn dilyn yr archwiliad blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru, cyflwynwyd barn archwilio ddiamod ac ni wnaed unrhyw argymhellion. Canfu’r archwilwyr fod arferion cyfrifo ac  adrodd ariannol y Comisiwn yn ddibynadwy, yn gymeradwy ac yn hawdd i’w deall.

Roedd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad yn canmol yr adroddiad a’r cyfrifon, gan nodi’r lefelau uchel o sicrwydd a ddarparwyd drwyddo draw gan staff y Comisiwn a chyflwyniad clir a hygyrch y wybodaeth.

Cyhoeddir y Cyfrifon heddiw ochr yn ochr ag adroddiad blynyddol y Comisiwn yn manylu ar ei gyflawniadau yn ystod y flwyddyn.

Mae uchafbwyntiau’r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys:

  • cyflwyno Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y Comisiwn sy'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad newid ei enw i'r Senedd, gan adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd a gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 o 2021;

  • y gwaith sylweddol a wnaed gan y Cynulliad i ymateb i heriau unigryw Cymru yn ymwneud â Brexit;

  • sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru newydd sy’n cynnwys 60 o bobl ifanc rhwng 11 a18 oed, a etholwyd yn ddemocrataidd;

  • sut y cynhaliodd y Cynulliad ddigwyddiadau o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol yn y byd chwaraeon a diwylliannol fel yr Eisteddfod Genedlaethol a dathliadau i groesawu Geraint Thomas a thîm rygbi Cymru a enillodd y gamp lawn.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi teyrnged i Steffan Lewis, y cyn Aelod Cynulliad a fu farw ym mis Ionawr 2019.

Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn manylu ar gyflawniadau mewn meysydd sy’n cynnwys:

Amrywiaeth a chynhwysiant

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae'r Cynulliad ymhlith y pum cyflogwr gorau o staff LHDT yn y DU ac fe'i henwyd yn gyflogwr gorau Cymru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle blynyddol diweddaraf Stonewall.

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Rhagori ar ein targed o ostyngiad o 30 y cant mewn allyriadau ynni ddwy flynedd cyn uchelgais 2020/2021 a chyflwyno cychod gwenyn a rhaglen bioamrywiaeth ehangach ar ystâd y Cynulliad i annog peillwyr a phryfed eraill i ffynnu.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Trawsnewid y ffordd yr ydym yn gosod lefelau sgiliau iaith wrth bennu gofynion swyddi. Mae'r ffordd yr ydym yn ystyried sgiliau iaith bellach yn fwy manwl gan roi'r cyfle inni ddathlu a chydnabod sgiliau ar bob lefel.

Fe wnaeth staff Comisiwn y Cynulliad helpu i gyflwyno ein gwerthoedd sefydliadol newydd – parch, balchder ac angerdd - dros y deuddeg mis diwethaf.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Bu hon yn flwyddyn arloesol i’r Cynulliad, yn enwedig o ran ymgysylltu.

“Mae ein Senedd Ieuenctid wedi gwneud cynnydd cyflym, rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 erbyn etholiadau nesaf Cymru, ac mae ein rhaglen gyffrous i nodi ugain mlynedd o ddatganoli – gan gynnwys ein hymrwymiad i gynnal Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru erioed eleni – yn estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ym mhob rhan o’r wlad.

“Uchafbwynt arbennig oedd cadeirio Cyfarfod Llawn cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd cyfraniadau dewr a gwefreiddiol yr Aelodau, yn ogystal â’u penderfyniad amlwg i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru ynglŷn â’u tri prif fater dros y blynyddoedd nesaf – iechyd a lles meddyliol, sgiliau bywyd a gwastraff plastig – yn ysbrydoledig.”

Dywedodd Manon Antoniazzi AC, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Fel staff y Comisiwn, rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith, yn teimlo'n angerddol am ein cyfleoedd i wneud gwahaniaeth, ac yn parchu ein gilydd: gwerthoedd sydd wedi’n tywys drwy gyfnod prysur a chynhyrfus.”

“Roedd dylunio a chyflwyno ein Senedd Ieuenctid yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn ac rwy'n adleisio teyrnged y Llywydd i 60 Aelod y Senedd Ieuenctid sydd wedi dylanwadu ar y tirlun gwleidyddol mor gyflym ac mor effeithiol.”

“Mae llawer o'r ansicrwydd yr oeddem yn ei wynebu ar ddechrau'r cyfnod hwn yn parhau, a bydd eu datrys yn llwyddiannus yn ein profi ni i gyd dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, rwy’n fwy hyderus fyth nawr fod gan y Comisiwn yr adnoddau, yr ymroddiad, y sgiliau, y gwerthoedd a'r uchelgais ar y cyd i gyflawni popeth sy'n ofynnol ohono. ”

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon: 2018-19 (PDF, 10 MB)