Mae dros 200 o ganghennau banc ar draws Cymru wedi cau ers 2008, gan adael rhai cymunedau a threfi gwledig, megis Abersoch a'r Gelli Gandryll, heb un gangen banc.
Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ymchwiliad sy'n edrych ar fynediad at wasanaethau bancio ar draws Cymru. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y ffyrdd y gall cau canghennau a mynediad at beiriannau ATM am ddim effeithio ar gymunedau lleol.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:
“Mae cael mynediad at wasanaeth bancio wyneb yn wyneb wedi dod yn broblem wirioneddol i lawer. Mae'n amlwg bod pryder y gallai'r sefyllfa fod yn cael effaith negyddol ar gymunedau, yn ogystal ag economïau lleol.
“Rydym am edrych yn fanylach ar y sefyllfa ar draws y wlad ac annog y rhai y mae hyn yn effeithio arnynt i gymryd rhan yn ein hymchwiliad fel y cawn ddarlun clir o'r ffordd y mae bancio yng Nghymru wedi newid.”
Mae Aberaeron ymhlith un o'r nifer o drefi sydd wedi eu heffeithio ac mae rhai perchnogion busnesau lleol yn dweud bod yr effaith wedi bod yn sylweddol. Dywedodd Angela Coles o Aberaeron Stores:
“Yn fuan, fydd gan ein tref yr un gangen banc o gwbl ar ôl cau Natwest, HSBC ac yn fuan Barclays. Nid yw hyn yn ddigonol i unrhyw un.
“Mae cael dim banciau o gwbl yn golygu ein bod yn ei chael hi'n anodd os nad oes newid gennym ac i wneud ein bancio mae'n rhaid i ni deithio awr o daith i'n banc agosaf. Mae teithio mor bell yn golygu ein bod ni’n cyrraedd adref yn hwyr iawn yn y nos ac ry’ ni’n gwario llawer ar danwydd bob wythnos.
“Mae'n anodd iawn i bawb yn y dref ond ry’ ni wedi gorfod addasu."
Hoffem ni clywed gennych chi.
Cymryd rhan yn ymchwiliad y pwyllgor economi i fynediad at fancio yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor am glywed barn pobl mewn cymunedau y mae cau canghennau banc yn effeithio arnynt a bydd hefyd yn cymryd tystiolaeth gan dystion arbenigol sydd wedi cynnal ymchwil helaeth i'r broblem.
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:
“Mae cael gwared ar gyfleusterau bancio'n bryder gwirioneddol i fusnesau ar draws Cymru.
“Mae'n rhaid nad oes llawer o gymunedau yng Nghymru nad ydynt wedi colli un neu fwy o ganghennau banc yn y blynyddoedd diwethaf ac, i fusnesau, mae hyn wedi golygu colli rheolwyr perthynas bancio ac arbenigedd ariannol, yr angen i deithio'n bell i adneuo symiau o arian parod sydd weithiau'n sylweddol.
“Ymhellach, rydym yn gweld bod peiriannau arian parod yn diflannu wrth i ganghennau banc gau. Ar gyfer ardaloedd gwledig ac economïau twristiaeth sy'n dibynnu ar arian parod i raddau helaeth, mae hyn yn broblem sylweddol i fusnesau llai o faint.
“Byddwn yn annog perchnogion busnesau bach i gymryd ychydig o funudau i rannu'r problemau niferus y mae cau canghennau banc yn eu hachosi i'w busnes, er mwyn helpu i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor wneud argymhellion ar gyfer camau gweithredu.”
Mae'r Pwyllgor am glywed barn pobl mewn cymunedau y mae cau canghennau banc yn effeithio arnynt a bydd hefyd yn cymryd tystiolaeth gan dystion arbenigol sydd wedi cynnal ymchwil helaeth i'r broblem.
Mae galwad y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig yn weithredol tan 17 Mai. Bydd arolwg ar-lein sy'n gofyn i bobl am eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau banc hefyd yn cael ei gynnal tan ddiwedd mis Mai.