Mae’r rhannau o baratoadau Cymru ar gyfer pandemig y mae angen eu harchwilio ymhellach wedi’u nodi yn adroddiad cyntaf Pwyllgor Covid y Senedd.
Roedd yn ofynnol i’r Pwyllgor nodi bylchau yn Ymchwiliad Covid-19 y DU yr oedd angen eu harchwilio’n fanylach yng Nghymru.
Nododd naw bwlch, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn cynnig i’r Senedd gyfan ar gyfer dadl yr wythnos nesaf. Maent yn cynnwys:
- Adolygu’r model cydnerthedd a pharodrwydd mwyaf effeithiol i Gymru
- Rhannu data yn ystod argyfyngau
- Eglurder negeseuon cyhoeddus
Os bydd y Senedd yn derbyn y cynnig hwnnw, bydd y Pwyllgor wedyn yn gwneud gwaith craffu penodol i Gymru y tu hwnt i’r gwaith a wnaed gan Ymchwiliad y DU.
Joyce Watson AS a Tom Giffard AS, Cyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19:
“Heddiw, rydym yn lansio adroddiad cyntaf Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19. Mae’n ganlyniad misoedd o waith cynhwysfawr i asesu a nodi bylchau posibl i’w harchwilio ymhellach o ganfyddiadau adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.
“Roedd y pandemig yn brofiad poenus a thrawmatig i lawer yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am y mewnwelediadau a’r profiadau a rannwyd gan bawb a wnaeth ein cynorthwyo gyda’n gwaith, gan gynnwys ein hymgynghoriad cyhoeddus a’n digwyddiad rhanddeiliaid.
“Rydym wedi nodi ein casgliadau ac wedi tynnu sylw at bob maes rydym yn credu bod angen ei archwilio ymhellach. Bydd y bylchau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cynnig i’r Senedd gyfan i’w hystyried yr wythnos nesaf.”
Cafodd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ei sefydlu ym mis Mai 2023 â chylch gorchwyl penodol - edrych ar adroddiadau ym mhob cam o Ymchwiliad Covid-19 y DU, a chynnig bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Cyhoeddwyd adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU ar gydnerthedd a pharodrwydd ym mis Gorffennaf 2024. Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill, ei hymateb.
Er mwyn nodi bylchau yn yr adroddiad Modiwl 1, ymgymerodd y Pwyllgor â gwaith ymgysylltu a chasglu tystiolaeth cynhwysfawr. Roedd hyn yn cynnwys adroddiad dadansoddiad o’r bylchau gan arbenigwyr argyfyngau sifil o Brifysgol Nottingham Trent, yn ogystal ag ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Ymchwiliad.
Bydd y cynnig sy’n gofyn am gydsyniad y Senedd i gynnal archwiliad arall o’r naw bwlch yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher, 2 Ebrill, gan nodi’r tro cyntaf i raglen waith pwyllgor y Senedd gael ei phenderfynu drwy bleidlais yn y Cyfarfod Llawn.
Lawrlwytho'r adroddiad hwn
Adroddiad gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, sy'n nodi bylchau yn adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU am barodrwydd Cymru yn ystod y pandemig.
chevron_right
Ymchwiliad: Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU