Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn croesawu’r ymateb i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf

Cyhoeddwyd 08/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn croesawu’r ymateb i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf

Mae Jonathan Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu adroddiad newydd ar effaith rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

Yn yr adroddiad a gyhoeddir heddiw (9 Gorffennaf), mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhybuddio na chaiff amcanion rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru eu cyflawni oni chaiff y rhaglen ei diwygio.

Wrth groesawu’r adroddiad dywedodd Mr Morgan: “Does dim gwadu y dylid blaenoriaethu mynd i’r afael ag amddifadedd yn ardaloedd tlotaf Cymru - yn enwedig mewn cyfnod anodd fel hwn.

“Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi buddsoddi £214 miliwn mewn nifer o fentrau ac mae’n dda gweld bod rhai manteision wedi deillio ohoni.

“Fodd bynnag, mae’n annerbyniol, wyth mlynedd yn ddiweddarach, bod gwendidau difrifol yn parhau yn y ffordd y gweithredir y rhaglen.

“Ni all Lywodraeth y Cynulliad ddangos effaith gyffredinol y rhaglen ac nid yw’n gwneud digon i annog cyrff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau’r Llywodraeth ei hun, i flaenoriaethu ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac i ganolbwyntio’u gwaith yn yr ardaloedd hyn.

“Oni chaiff y cynllun blaenllaw hwn ei wella mewn ffordd sylfaenol, ni fydd yn cyflawni ei amcanion. Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion pwysig y dylid mynd i’r afael ag hwy ar fyrder.”

Y Pwyllgor Archwilio