Cadeirydd pwyllgor i roi’r brif araith mewn cynhadledd am dlodi plant

Cyhoeddwyd 23/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cadeirydd pwyllgor i roi’r brif araith mewn cynhadledd am dlodi plant

23 Mehefin 2010

Heddiw (23 Mehefin), bydd Cadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi’r brif araith mewn cynhadledd sydd â’r nod o roi terfyn ar dlodi plant.

Bydd Helen Mary Jones AC yn annerch cynrychiolwyr mewn digwyddiad a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a drefnir gan Achub y Plant Gogledd Iwerddon. Cynhelir y gynhadledd, ‘Making it Happen: Ending Child Poverty by 2020’, yn Belfast.

Dywedodd Helen Mary Jones AC: “Mae’n anrhydedd cael annerch y gynhadledd hon, ac yn gyfle gwych i hyrwyddo’r gwaith y mae fy nghydweithwyr a minnau wedi bod yn ei wneud ar Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad.

“Yn fwy na hynny, mae’n gyfle i gael siarad yn uniongyrchol â phobl a all wneud gwahaniaeth mawr i roi terfyn ar dlodi plant.

“Dim ond drwy gynnwys pawb – swyddogion o lywodraethau lleol a chenedlaethol, cynrychiolwyr etholedig a phobl o’r sector gwirfoddol a chymunedol – y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.

“Yn bwysicach oll, mae’n rhaid i ni wneud rhagor i wrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i’w ddweud am eu bywydau a’r hyn y maent am ei wneud â’u bywydau. Dyna fydd un o’r prif themâu y byddaf yn siarad amdani yn ystod fy araith.”

Bydd Helen Mary hefyd yn siarad am adroddiad y Pwyllgor ar gyllidebu ar gyfer plant yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, yn galw am archwiliad manylach o faint o arian sy’n cael ei wario ar faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a pha mor dda mae’r arian hwnnw’n cael ei wario.

Canfu’r archwiliad ddadansoddiad manwl o lle caiff arian ei wario mewn gwahanol feysydd ac amlinelliad o sut y gallai’r arian hwnnw effeithio’n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc ac arwain at wneud gwell penderfyniadau yn y dyfodol.

Fel rhan o’i hymweliad â Gogledd Iwerddon, bydd Helen Mary Jones yn cyfarfod ag aelodau o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont ddydd Iau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, gan gynnwys ymchwiliadau presennol a blaenorol, yma

Gellir gweld yr adroddiad ar gyllidebu ar gyfer plant yma

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Achub y Plant yma