Cadeirydd Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r frwydr yn erbyn y dirwasgiad wrth galon ei chyllideb

Cyhoeddwyd 20/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cadeirydd Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r frwydr yn erbyn y dirwasgiad wrth galon ei chyllideb

20 November 2009

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud wrth Aelodau’r Cynulliad bod angen i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau cyllidebol.

Yn y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn heddiw (17 Tachwedd), dywedodd Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor, wrth Aelodau nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r gyllideb sylfaenol fel ymateb i’r dirwasgiad.

Ychwanegodd bod y cynigion i bob pwrpas yn parhau i ddefnyddio’r patrymau gwario a ddefnyddiwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd fod hynny wedi arwain at ymdrechion i sicrhau effeithlonrwydd ym mhob maes, gan gynnwys rhoi canran anghymesur o arian i addysg uwch. Honnai’r Pwyllgor Cyllid bod angen buddsoddi mwy o arian yn y maes hwn er mwyn trawsnewid Cymru i fod yn wlad ag economi sy’n seiliedig ar wybodaeth ac i arwain yr economi allan o’r dirwasgiad.

Dywedodd Mrs Burns: “Nid oes gan y Pwyllgor farn am flaenoriaethau’r Llywodraeth”.

“Ond o gofio bod Cymru’n ceisio dod allan o ddirwasgiad difrifol ac o gofio’r cyfyngiadau tyn a fydd ar wariant cyhoeddus yn y dyfodol, mae’r Pwyllgor Cyllid yn cael trafferth deall sut y bydd yr un blaenoriaethau’n cael eu rhoi ar waith gan ddefnyddio’r un patrymau gwario.

“Barn y Pwyllgor Cyllid yw, os na roddir mwy o flaenoriaeth i godi’r economi allan o’r dirwasgiad, bydd y Llywodraeth yn wynebu anawsterau difrifol wrth geisio gweithredu’r blaenoriaethau hyn.”