Cadeirydd y Bwrdd Taliadau annibynnol yn ymddiswyddo - datganiad gan Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Medi 2013
Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae angen llawdriniaeth fawr ar Syr George Reid yn gynnar yn yr Hydref. Bydd angen o leiaf tri mis arno i wella ac, yn yr amgylchiadau hynny, mae wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Bwrdd Taliadau annibynol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”
“Rwy'n derbyn ei ymddiswyddiad gyda thristwch mawr a hoffwn ddiolch iddo, ar ran y Cynulliad, am ei gyfraniad eithriadol. Ac yntau'n gadeirydd cyntaf ar y Bwrdd, mae eglurder ei weledigaeth, ei waith manwl a'r modd yr aeth ati i greu Bwrdd cadarn a chydlynol wedi bod yn hynod o werthfawr.
“Rwy'n sicr y bydd y gwaith a wnaed gan y Bwrdd, o dan oruchwyliaeth Syr George, yn gosod sylfaen gadarn i'r dyfodol. Mae wedi bod yn fraint enfawr ac yn bleser gweithio gydag ef ac roedd y Cynulliad yn hynod o ffodus y cafodd Syr George Reid rôl mor bwysig ar adeg mor dyngedfennol.
“Mae trefniadau bellach ar waith i lenwi'r swydd wag. Yn y tymor byr, cytunodd y Bwrdd i benodi Sandy Blair yn gadeirydd dros dro.”