Cael blas ar Gymru wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd

Cyhoeddwyd 27/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cael blas ar Gymru wrth ddathlu Dydd Gwyl Dewi yn y Senedd

27 Chwefror 2012

Caiff ymwelwyr â’r Senedd gynnig blas ar Gymru ar Ddydd Gwyl Dewi (1Mawrth).

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu rhai o gynhyrchwyr bwyd mwyaf blaenllaw Cymru i’r Senedd. Byddant yn dangos rhai o’r sgiliau a’r cynnyrch sy’n golygu bod bwyd o Gymru’n gwneud ei farc ledled y byd.

Dywedodd y Llywydd: “Mae ffermio a chynhyrchu bwyd ymhlith y diwydiannau mwyaf sydd gennym yma yng Nghymru.

“Felly pa ffordd well o nodi Dydd Gwyl Dewi na thrwy ddathlu’r cyfoeth o fwyd a gynhyrchir yma?

“Mae’r sector bwyd mor bwysig o ran creu economi gynaliadwy a blaengar, ac mae’n bwysig cydnabod cyfraniad ariannol y cynhyrchwyr hyn i Gymru.

“Bydd gwên ar wyneb pawb yn y Senedd hefyd wrth iddynt gael cyfle i flasu bwyd safonol o Gymru.”

Bydd y Llywydd yn croesawu gwesteion i’r Senedd am 12.10 ac yna bydd perfformiad gan Gôr Meibion Cil-y-Coed.

Ar ôl y perfformiad cerddorol caiff y gwesteion fwynhau arddangosfeydd bwyd gan dîm coginio Cymru tan 13.30.