Cais am well addysg ynghylch sut i amddiffyn rhag yr haul yn sgil gwaith gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cais am well addysg ynghylch sut i amddiffyn rhag yr haul yn sgil gwaith gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu adroddiad gan gyd-Aelodau sy’n galw am fwy o addysg i blant ynghylch peryglon yr haul.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad gasgliadau ei ymchwiliad i ddeiseb a gyflwynwyd gan yr elusen ganser, Tenovus, a oedd yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal ar ôl i’r Pwyllgor Deisebau gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Er i’r Pwyllgor benderfynu peidio â chefnogi’r hyn yr oedd y ddeiseb yn galw amdani, mae aelodau’r Pwyllgor Deisebau wedi croesawu’r cais a gafwyd yn yr adroddiad am ymagwedd ehangach tuag at amddiffyn rhag yr haul.

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Dyma system ddeisebau’r Cynulliad ar waith.”

“Yn y pen draw, penderfynodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i beidio â pharhau â’r cais i ddarparu eli haul am ddim. Fodd bynnag, mae hyn yn brawf y gallwch chi wthio mater i frig yr agenda wleidyddol drwy gyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“O ganlyniad i’r ddeiseb hon, mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y mater ynghylch amddiffyn rhag peryglon yr haul yn cael ei drin yn fwy difrifol, a bod pobl ifanc yn cael rhagor o addysg am hynny.”

Roedd Tenovus yn fodlon â’r profiad o’r broses ddeisebau yng Nghymru. “Drwy’r Pwyllgor Deisebau, roedd modd i ni godi ymwybyddiaeth am faterion ehangach sy’n ymwneud ag amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion, a chael mynd â’r mater i frig y broses benderfynu yng Nghymru, lle trafodwyd y mater gyda difrifoldeb haeddiannol,” dywedodd Dr Ian Lewis, Cyfarwyddwr Cysylltiol Ymchwil Tenovus.

“Rydym yn falch o weld bod nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymchwiliad am sut y dylid mynd ati i amddiffyn plant yn gyffredinol, er enghraifft darparu digon o gysgod a faint y mae gwisg ysgol yn amddiffyn rhag yr haul, wedi bod yn sail i argymhellion a gafodd eu cyflwyno gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

“Gwyddom mai rhan o ymgyrch ehanagach i addysgu plant am beryglon posibl yr haul oedd yr alwad am ddarparu eli haul am ddim i blant mewn ysgolion, a thros yr haf, byddwn yn parhau â’n hymgyrch flynyddol, Here Comes the Sun, sy’n hyrwyddo’r neges am beryglon yr haul ym mhob rhan o Gymru ac yn cyrraedd pobl yng nghalon y gymuned.”