Canolbwyntio ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Cyhoeddwyd 24/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Canolbwyntio ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

24 Ionawr 2014

Fel rhan o ymchwiliad newydd, bydd un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio safonau ac argaeledd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystyried a yw gwasanaethau wedi gwella o ganlyniad i ddiwygiadau a gyflwynodd Llywodraeth Cymru o dan Chwalu'r Rhwystrau; gweithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; a strategaeth iechyd meddwl 2012 Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Hoffai'r Pwyllgor glywed am:

  • argaeledd gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl;

  • mynediad at wasanaethau arbenigol iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y gymuned yn haen 2 ac uwch ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys mynediad at therapïau seicolegol;

  • i ba raddau y mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn cael eu hymgorffori o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach;

  • a yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn cael digon o flaenoriaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol ehangach, gan gynnwys dyrannu adnoddau i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

  • unrhyw amrywiaeth rhanbarthol sylweddol o ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ledled Cymru;

  • effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd angen gwasanaethau brys;

  • i ba raddau y mae'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn hyrwyddo diogelu, hawliau plant a chynnwys plant a phobl ifanc; ac

  • unrhyw faterion allweddol eraill a nodwyd gan randdeiliaid.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, "Mae'n hanfodol fod plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gallu cael gafael ar ofal o safon uchel ble bynnag y maent yng Nghymru."

"Dylai'r gofal a gânt fod yn rhan annatod hefyd o unrhyw gymorth arall sydd ar gael drwy'r gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

"Bydd y Pwyllgor yn ystyried safon ac argaeledd y gwasanaethau hyn ledled Cymru i ganfod a oes unrhyw amrywiaethau a pham.

"Byddwn hefyd yn canfod pa effaith a gaiff polisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gweithredu'r Mesur Iechyd Meddwl, a'i strategaeth iechyd meddwl, ar y gwasanaethau hyn."

Gall unrhyw un sydd am gyfrannu wneud hynny drwy anfon e-bost i PwyllgorPPI@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 28 Chwefror 2014