Carreg filltir i Gymru! – Enillwch docynnau i gyngerdd mawreddog ar benblwyddi canolfannau diwylliannol a gwleidyddol y wlad
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Canola Mileniwm Cymru ill dau yn cael penblwyddi o bwys eleni.
Mae’n ddeng mlynedd ers dechrau datganoli yng Nghymru, tra bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei pharti pen-blwydd yn bump oed.
Dyna pam fod y ddau gorff yn cydweithio i gynnal cyngerdd mawreddog ar 14 Tachwedd 2009, er mwyn nodi’r ddau achlysur pwysig hwn.
Ac mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddau docyn i’w rhoi ar gyfer y digwyddiad nodedig.
“Nid yw datganoli’n golygu’r Cynulliad Cenedlaethol a’i drigain o Aelodau,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd.
“Mae’n golygu annog mwy o bobl i gyfrannu at y broses wleidyddol ac annog cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru i ddweud eu dweud am ddyfodol y wlad.
“A dyna pam ein bod yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon i ennill tocynnau i’r cyngerdd.”
Bydd y cyngerdd yn cynnwys gwaith newydd gan Karl Jenkins, y cyfansoddwr byd-enwog o Gymru – gan gynnwys cyfansoddiad arbennig i nodi dengmlwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd yr achlysur hefyd yn nodi pen-blwydd y cyfansoddwr yn 65 oed a bydd yn cynnwys rhai o weithiau enwocaf Karl Jenkins, gan gynnwys darnau o’r albymau Adiemus: Songs of Sanctuary, Requiem ac Armed Man, sydd wedi gwerthu dros filiwn o gopïau.
Bydd perfformiadau hefyd gan y soprano rhyngwladol Rebecca Evans, y delynores Catrin Finch a’r gantores Elin Fflur.
I gael cyfle i ennill pâr o docynnau bydd angen ateb y cwestiynau a ganlyn:
Ym mha flwyddyn yr agorwyd adeilad y Senedd?
Pwy yw Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol?
Pwy yw Prif Weinidog Cymru?
I gystadlu, e-bostiwch yr atebion at devolution10@wales.gsi.gov.uk
Neu, fel arall, llenwch ffurflen gystadlu yn y Senedd neu anfonwch yr atebion ar gerdyn post i Gystadleuaeth Cyngerdd 10, Natalie Drury-Styles, 3ydd Llawr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.
Hoffwn gadw eich manylion personol er mwyn ein galluogi i gysylltu â chi a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Os rydych am i ni beidio â chysylltu â chi i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir yn y dyfodol, rhowch wybod yn eich e-bost. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 30 Hydref 2009