Cefnogi annibyniaeth pobl hŷn – Datganiad gan gadeirydd un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/10/2015

 

Mae Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Cefnogi Annibyniaeth Pobl Hŷn: A yw Cynghorau'n gwneud digon?:

"Mae pobl hŷn yn dymuno byw mor annibynnol â phosibl yng Nghymru, ac maent yn haeddu cael gwneud hynny. Hyd yn oed i'r rheini nad ydynt yn y sefyllfa honno eto, rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei ddymuno i ni ein hunain ac i aelodau o'n teulu yn y blynyddoedd diweddarach.

"Ond mae canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos bod y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen i bobl i wneud hynny'n cael eu cwtogi neu eu dileu'n gyfan gwbl.

"Gwyddom am yr her sy'n wynebu cynghorau wrth orfod lleihau gwariant i gydbwyso cyllidebau, ond ofnaf y gall y dull presennol o dorri'r gwasanaethau pwysig hyn gynyddu'r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol acíwt mwy costus yn y tymor canolig.

"Mae hyn yn wrthreddfol yn gyffredinol, ond hefyd yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

"Felly mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith os yw ei newidiadau arfaethedig am gael yr effaith y mae'n ei dymuno ac sydd ei hangen ar bobl hŷn."

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gael yma.