Seremoni i symud y Byrllysg o’r Senedd yn nodi diwedd busnes y Cynulliad presennol
31 Mawrth 2011
Heddiw (30 Mawrth), daeth busnes sesiwn bresennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ben yn dilyn seremoni i symud y Byrllysg o’r Senedd.
Trosglwyddodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Byrllysg i’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan AC, sy’n sefyll i lawr fel Aelod Cynulliad, i’w gario allan o’r Siambr.
Mae’n dod â busnes y Trydydd Cynulliad Cenedlaethol i ben. Yn ystod y cyfnod hwn, pasiwyd 22 o gyfreithiau newydd, a elwir yn Fesurau Cynulliad.
Mae hwn yn cyfateb i draddodiad yr Agoriad Brenhinol, pan gaiff y Byrllysg ei ddychwelyd i’r Siambr ar ddechrau’r Cynulliad newydd.
Bydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu’n swyddogol am hanner nos ar 31 Mawrth.
Mewn datganiad i’r Siambr, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Dyma’r datganiad diddymiad cyntaf yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol.
“Hoffwn ddatgan fy niolchgarwch fel Llywydd i'n Prif Weithredwr a thrwyddi hithau i'n holl staff brwdfrydig am eu hymroddiad trylwyr a phroffesiynnol i hyrwyddo democratiaeth Cymru.
“Gallwch oll ymfalchio bod eich gwaith clodwiw chi wedi cyfrannu'n sylweddol i'r bleidlais o ymddiriedaeth gadarn a gawsom gan etholwyr Cymru yn y Refferendwm diweddar.
“Derbyniwch ein diolchgarwch cynnes fel Aelodau'r Trydydd Gynulliad.”
Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eistedd eto tan ar ôl etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.
Mae’r Byrllysg yn rhodd i’r Cynulliad gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia. Fe’i cyflwynwyd i’r Cynulliad ar 1 Mawrth 2006 yn yr Agoriad Brenhinol.
Mae’r Byrllysg wedi’i wneud o aur, arian ac efydd ac fe’i dyluniwyd gan wneuthurwyr aur Fortunato Rocca ym Melbourne. Cymerwyd 300 o oriau i’w wneud ac mae wedi’i addurno ag arwyddluniau Senedd De Cymru Newydd a’r Cynulliad.
Arno, ceir y geiriau, “cyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Senedd De Cymru Newydd 1 Mawrth 2006”.