Inside the Senedd

Inside the Senedd

Chwilio am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 24/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae'r Senedd am argymell Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd i Gymru, i'w benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer y rôl.

Mae’r Ombwdsmon yn ddiduedd ac yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Nod y rôl yw darparu gwasanaeth annibynnol sy’n rhad ac am ddim i'r cyhoedd.

Cafodd swyddfa'r Ombwdsmon ei chreu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae gan yr Ombwdsmon bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Hefyd, caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion bod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod.

Yn 2019, estynnwyd pwerau'r Ombwdsmon gan y Senedd. Bellach, gall yr Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar, cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, ymchwilio i driniaeth feddygol breifat gan gynnwys gofal nyrsio drwy lwybr iechyd cyhoeddus/preifat. Hefyd, gall gael rôl wrth ymdrin â chwynion, safonau a gweithdrefnau.

Croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.

Am fwy o wybodaeth: 
https://senedd.cymru/cyfleoedd-gwaith/penodiadau-cyhoeddus/

 

Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Rydym yn chwilio am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd i Gymru i barhau i hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus a sicrhau gwelliant parhaus mewn safonau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn y Senedd ddiwethaf cafodd yr Ombwdsmon bwerau ychwanegol, ac mae'r Pwyllgor Cyllid am benodi'r ymgeisydd cywir i barhau i ddwyn gwaith y swyddfa yn ei flaen ar yr adeg gyffrous hon.”

Nick Bennett, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar hyn o bryd:

“Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi rhoi mwy o lais i ddinasyddion. Mae'r pwerau newydd wedi caniatáu i'm swyddfa ddechrau ymchwiliadau am y tro cyntaf, yn hytrach nag aros i gŵyn ddod i law.

“Mae hon yn adeg gyffrous i’r ymgeisydd cywir barhau i arfer y pwerau newydd yn y Ddeddf, gan weithio er budd pobl Cymru ac arwain tîm ymroddedig.”