Cyhoeddwyd 15/06/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Clybiau pêl-droed yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant yn Llangollen
Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn clywed tystiolaeth gan glybiau pêl-droed mewn cyfarfod yn Llangollen yr wythnos nesaf.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Iau 15 Mehefin yn y Pafiliwn Cydwladol, Llangollen.
Bydd cynrychiolwyr clybiau pêl-droed y Rhyl, TNS a Bangor yn annerch yr Aelodau fel rhan o adolygiad y Pwyllgor o bêl-droed yng Nghymru. Bydd Brian Lawlor, Dyfarnwr o'r Gogledd-orllewin, a Richard Lillicrap o Supporters Direct, hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor.
Yn yr un cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn cytuno ar ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â'r Llywodraeth.
Cynhelir y cyfarfod yn y Pafiliwn Cydwladol am 9.30am ddydd Iau 15 Mehefin.
Manylion llawn ac agenda