Cod Ymddygiad a Chomisiynydd Safonau newydd yn cyflwyno disgwyliadau ymddygiad newydd i Aelodau o'r Senedd

Cyhoeddwyd 17/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch pan maen nhw’n dod i gysylltiad â’u haelodau etholedig yw nod allweddol Cod Ymddygiad newydd sy’n cael ei gynnig ar gyfer Aelodau o'r Senedd.

Mae’r Cod presennol wedi cael ei adolygu er mwyn adlewyrchu safonau cyfoes ym mywyd cyhoeddus a’r materion gwleidyddol, cyfansoddiadol a diwylliannol sy’n gyd-destun i waith Aelodau o fewn Senedd sy’n esblygu.

Mae’r newidiadau sy’n cael eu cynnig yn y Cod, a gyhoeddir heddiw (17 Mawrth) gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd, yn cynnwys egwyddor ychwanegol - ‘parch’ - yn rhan o egwyddorion ehangach ynghylch ymddygiad Aelodau. Mae rheolau clir iawn yn cyd-fynd â nhw sy’n gosod amgylchiadau ynghylch dwyn Aelodau o'r Senedd i gyfrif. Mi fydd gofyn i’r Senedd gymeradwyo’r Cod newydd ddydd Mercher nesaf (24 Mawrth).

Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Aelodau o'r Senedd. Os yw unrhyw un yn credu nad yw Aelod wedi cyrraedd y safonau hyn, gallant gwyno i Gomisiynydd Safonau'r Senedd. Mae'r Comisiynydd - sy'n annibynnol - yn hyrwyddo, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel ymhlith Aelodau o'r Senedd.

Mae cyhoeddi'r Cod newydd yn cyd-fynd â phenodi Mr Douglas Bain i rôl y Comisiynydd Safonau. Bu Mr Bain yn gweithio mewn rôl gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac mae wedi bod yn Gomisiynydd Dros Dro yng Nghymru er 2019. Cafodd ei ddethol yn dilyn cystadleuaeth agored ac fe gafodd y penodiad ei gadarnhau yn y Senedd y prynhawn yma.

Yr egwyddor Parch newydd 

Mae egwyddorion eang Cod Ymddygiad y Senedd yn seiliedig ar y Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus - a elwir yn ‘egwyddorion Nolan’ - ynghyd â’r egwyddor newydd: ‘parch’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Aelodau bob amser “ymddwyn mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal, parchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu'n ddiangen.”

Mae'r Cod hefyd yn cynnwys 24 o reolau y gellir eu gorfodi. Bwriad y rheolau yw galluogi dwyn Aelodau i gyfrif am eu hymddygiad, nid dyfarnu sut maen nhw’n cyflawni eu cyfrifoldebau fel cynrychiolwyr etholedig. Y gobaith yw y bydd hyn yn gosod yn gliriach y safon sydd i’w ddisgwyl o ran ymddygiad ein cynrychiolwyr etholedig.

Dywedodd Jane Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

“Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi bod yn ystyried y ffordd orau o adlewyrchu digwyddiadau pwysig y blynyddoedd diwethaf fel y mudiad #metoo a Black Lives Matter, ac i sicrhau bod gennym drefn Safonau a all gwrdd â heriau sy’n wynebu Senedd fodern. Credwn fod y cysyniad o drin pawb â pharch ac yn hafal yn ychwanegiad pwysig at egwyddorion allweddol bywyd cyhoeddus a nodir yn Egwyddorion Nolan. Rydym wedi ystyried y ffordd orau o ymgorffori hyn yng Nghod y Senedd, ac rydym wedi cynnig y dylid ychwanegu’r egwyddor newydd – ‘parch’.

“Rwy’n croesawu penodiad Douglas Bain heddiw fel y Comisiynydd Safonau newydd. Mae  Douglas Bain wedi dangos trwy ei waith fel Comisiynydd Dros Dro, a’r amcanion y mae wedi eu gosod ar gyfer y chwe blynedd nesaf, ei fod yn cefnogi’r diwygiadau sydd eu hangen a fydd yn sicrhau bod y drefn safonau yn parhau i fod yn addas ar gyfer y Senedd wrth iddi esblygu.

“Mae’r gwaith i ddiwygio’r Cod Ymddygiad a phenodi Comisiynydd Safonau newydd yn gamau pwysig wrth sefydlu’r drefn safonau newydd ar gyfer y Chweched Senedd.”

Wrth gael ei benodi’n Gomisiynydd Safonau’r Senedd, dywedodd Douglas Bain:

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Gomisiynydd Safonau’r Senedd.

“Byddaf yn parhau i wneud fy ngorau glas i sicrhau bod y system gwynion yn deg, yn onest ac yn syml, i'r rhai sy'n gwneud cwyn ac i unrhyw Aelod sydd â chwyn wedi'i gwneud yn eu herbyn.

“Dylai Aelodau o’r Senedd fod yn gosod esiampl ar y safonau sy’n ofynnol mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac ar ôl yr etholiad ym mis Mai gyda Senedd newydd, Cod Ymddygiad newydd a Chomisiynydd newydd bydd gennym gyfle gwych i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a hyder yn y Senedd a'i gwaith.

“Rwyf hefyd yn awyddus i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r safonau moesegol sy'n ofynnol gan Aelodau. Rwy’n gobeithio cwrdd â grwpiau lleol i egluro’r broses gwynion, fy rôl fel y Comisiynydd a sut i wneud cwyn os na chyrhaeddir y safonau gofynnol.”