Mae’r Cod Ymddygiad newydd ar gyfer Aelodau o'r Senedd, a gafodd ei osod gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 11 Mawrth, yn arddel ffocws o’r newydd ar urddas, atebolrwydd a hyder y cyhoedd.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cynnal adolygiad o'r Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu disgwyliadau cyfoes o fywyd cyhoeddus, ynghyd â rôl gyfansoddiadol esblygol y Senedd. Daw hyn yn sgil ymgynghoriad helaeth a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2025, yn ogystal â chyfres o ymchwiliadau yn ystod y Chweched Senedd i urddas a pharch, cryfhau annibyniaeth o fewn y broses gwyno, y broses o gofrestru a datgan buddiannau, ac atebolrwydd Aelodau unigol.
Mae'r Cod newydd yn dwyn y ffrydiau gwaith hyn ynghyd, gan nodi disgwyliadau cliriach ar gyfer yr Aelodau a fframwaith mwy tryloyw y gellir ei ddefnyddio i’w dwyn i gyfrif.
Cod wedi'i foderneiddio ar gyfer Senedd fodern
Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan bob Aelod o'r Senedd. Gall unrhyw un sy'n credu nad yw Aelod wedi bodloni'r safonau hyn wneud cwyn i Gomisiynydd Safonau Ymddygiad y Senedd, sy'n gweithredu'n annibynnol er mwyn cynnal a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad.
Mae adolygiad y Pwyllgor wedi digwydd ochr yn ochr â’r broses o ddatblygu’r Bil Atebolrwydd Aelodau, sydd ar drothwy cyfnodau terfynol ei daith drwy’r Senedd. Disgwylir i'r Bil gael dylanwad ar agweddau ar y drefn safonau, gan gynnwys sut yr eir i’r afael â chwynion, a sut y caiff cyfrifoldebau’r Aelodau eu diffinio.
Mae'r Cod diwygiedig yn cynnig rheolau mwy cadarn ynglŷn ag urddas a pharch, gofynion uwch o ran cofrestru a datgan buddiannau, a disgwyliadau cliriach o ran atebolrwydd personol. Mae hefyd yn adlewyrchu gwaith y Pwyllgor mewn perthynas â chyflwyno mwy o annibyniaeth a chymorth i'r drefn gwyno, gan sicrhau ei bod yn deg, yn hygyrch ac yn ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd.
Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
“Ffocws canolog y Pwyllgor Safonau Ymddygiad trwy gydol y chweched Senedd oedd datblygiad o fframwaith safonau sy’n gliriach, cryfach a mwy tryloyw. Mae'r cod ymddygiad a'r dogfennau sy'n ei gefnogi yn rhan allweddol o'r gwaith hwn. Roeddem yn awyddus i sicrhau bod y fframwaith safonau nid yn unig yn adlewyrchu arfer gorau, ond hefyd y disgwyliadau a osodir arnom fel Aelodau etholedig. Mae ein gwaith ar urddas a pharch, ynghyd ag effaith o’r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) wedi llunio’r darpariaethau yn sylweddol.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor, a swyddogion y Pwyllgorau am y gwaith a wnaed ganddynt drwy gydol y Senedd hon, yn ogystal â phawb a ymgysylltodd â’r Pwyllgor er mwyn darparu tystiolaeth drwy gydol y broses. Os cytunir, bydd y cod a'r canllawiau newydd yn dod i rym o ddiwrnod cyntaf y seithfed Senedd.”
Derbyniwyd y Cynnig
Ar 18 Mawrth 2026, cytunodd y Senedd ar y cynnig i gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau'r Senedd, i ddod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd. Mae’r adroddiad, a osodwyd ar 11 Mawrth 2026, yn amlinellu cefndir yr adolygiad, yn ogystal â chynnwys canllawiau ar y Cod diwygiedig.