Cofeb Fflandrys – Y Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu beicwyr ar daith i godi arian

Cyhoeddwyd 06/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cofeb Fflandrys – Y Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu beicwyr ar daith i godi arian

9 Medi 2013

Mae beicwyr sy’n codi arian ar gyfer Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys wedi galw heibio’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddydd Llun 9 Medi.

Cawsant eu croesawu gan David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, ar risiau’r Senedd.

Mae’r wyth o feicwyr o Gôr Rygbi Gogledd Cymru, côr swyddogol yr ymgyrch, yn beicio 670 milltir o Fangor i Fflandrys.

Maent yn mynd ar y daith er cof am Hedd Wyn, y bardd o Gymru, a fu farw yn Langmark yn Fflandrys yn ystod Brwydr Passchendaele ym 1917.

Rosemary Butler AC, y Llywydd, yw noddwr Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys.

Dywedodd y Dirprwy Lywydd, “Mae’n bleser mawr croesawu aelodau o Gôr Rygbi Gogledd Cymru i’r Senedd heddiw”.

“Bydd Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys yn cydnabod yr aberth eithaf a wnaed gan ddynion ifanc, fel Hedd Wyn, yn ystod y Rhyfel Mawr mewn brwydrau fel yr un yn Passchendaele.

“Y Llywydd sy’n noddi’r ymgyrch, ac rydym yn croesawu’r beicwyr hyn i’r Senedd i ddangos ein cefnogaeth ar eu taith hir, yr wyf yn gobeithio y bydd yn helpu i ddod â’r gofeb honno yn Fflandrys gam yn agosach.”

Mae taith y beicwyr yn barod wedi mynd â hwy o Fangor, drwy Drawsfynydd ac i lawr i Lanelli cyn cyrraedd Caerdydd.

Yn awr, byddant yn mynd ymlaen i Gaerfaddon, Llundain a Dover cyn teithio trwy Dunkirk i Langemark.

Dywedodd Alwyn Bevan, sy’n aelod o bwyllgor yr apêl a’r côr: “Mae bron i ganrif wedi mynd heibio ers dechrau’r Rhyfel Byd Cynaf ac nid oes gennym gofeb i nodi aberth milwyr o Gymru yn Fflandrys.

“Mae’r côr wedi trefnu’r daith hon i godi arian oherwydd ein bod am weld yr aberth a wnaethpwyd gan nifer o ddynion ifanc o Gymru yn cael ei goffau yn Langemark.

“Hoffwn ddiolch i’r Llywydd, a’r Cynulliad Cenedlaethol, am barhau i gefnogi’r ymgyrch hon.”