Cofio Dydd y Cadoediad yn y Senedd
Digwyddiad: Dwy Funud o Ddistawrwydd yn y Senedd
Lle: Y Senedd, Bae Caerdydd, Caerdydd
Pryd: 10.50, Dydd Gwener 11 Tachwedd
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Dydd y Cadoediad yn y Senedd eleni gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a Ken Terry, Cadeirydd Cangen Gogledd Ddwyrain Morgannwg y Lleng Brydeinig Frenhinol, fydd yn arwain y ddwy funud draddodiadol o ddistawrwydd.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.50 gyda darllen yr Anogiad yn y Neuadd cyn i’r Senedd ymdawelu ar yr unfed awr ar ddeg o’r unfed dydd ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg.
Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn croesawu’r cyfle i nodi Dydd y Cofio yn y Senedd.”
“Mae’r flwyddyn hon hefyd yn nodi deng mlynedd ers dechrau’r gwrthdaro yn Affganistan.
“Dylai hyn ein hatgoffa un ac oll, er na fyddwn fyth yn anghofio aberth y rhai a fu farw yn gwasanaethu eu gwlad ers y Rhyfel Byd Cyntaf, y dylem hefyd gofio am y rhai sy’n parhau i beryglu eu bywydau heddiw.”
Gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan yn y ddwy funud o ddistawrwydd yn y Senedd.