Cofrestrwch i bleidleisio i wneud yn siwr eich bod yn cael dweud eich dweud pan fydd Cymru yn bwrw pleidlais yn 2011!

Cyhoeddwyd 13/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cofrestrwch i bleidleisio i wneud yn siwr eich bod yn cael dweud eich dweud pan fydd Cymru yn bwrw pleidlais yn 2011!

13 Medi 2010

Y flwyddyn nesaf (2011), bydd pobl Cymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud mewn tair pleidlais bwysig.

Y flwyddyn nesaf, bydd refferendwm yn y gwanwyn i benderfynu a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael rhagor o bwerau deddfu.

Yna, ar 5 Mai, byddwn yn pleidleisio i benderfynu pwy ddylai’n cynrychioli ni yn y Senedd drwy fwrw pleidlais ym mhedwerydd etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar yr un diwrnod, mae disgwyl i ni hefyd benderfynu a ddylem ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol i ethol Aelodau Seneddol San Steffan.

Dyma dair pleidlais bwysig a fydd yn effeithio ar ein dyfodol a dyna pam mae Tîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Ffair y Glas ym Mhrifysgol Abertawe ar 30 Medi i roi gwybodaeth i fyfyrwyr am y pleidleisiau arfaethedig ac i egluro wrthynt sut i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru.

“Mae’r rhain yn etholiadau hynod bwysig a dylai pawb sy’n byw yng Nghymru gael cyfle i ddweud eu dweud drwy gyfrwng y blwch pleidleisio,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad.

“Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfrifoldeb cyfreithiol i roi gwybodaeth wrthrychol am y setliad datganoli presennol ac unrhyw newidiadau arfaethedig.

“Gan hynny, bydd ein swyddogion allgymorth ar gael yn ystod wythnos y glas ym mhrifysgolion Cymru i ofalu bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r dewisiadau pwysig sy’n wynebu Cymru y flwyddyn nesaf ac i wneud yn siwr eu bod yn gallu cymryd rhan yn y broses.”

I ddarganfod mwy am gyfleoedd i bleidleisio yn 2011, cliciwch yma.