Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar y llwybr cywir i gyflawni ei nod

Cyhoeddwyd 10/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar y llwybr cywir i gyflawni ei nod

10 Medi 2013

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, am y tro cyntaf, wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar ei berfformiad corfforaethol.

Lluniwyd yr adroddiad mewn ymateb i argymhelliad gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Mae'r adroddiad yn mesur perfformiad y Comisiwn yn ôl ei nodau strategol, sef darparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf, ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru, a defnyddio adnoddau'n ddoeth.

Dengys yr adroddiad bod cynnydd da o ran pob un o'r dangosyddion perfformiad. Caiff ei gyhoeddi deirgwaith y flwyddyn er mwyn rhoi darlun clir o effeithiolrwydd y Comisiwn.

Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn sy'n dangos bod Comisiwn y Cynulliad ar y llwybr cywir i gyflawni'r nodau anodd y mae wedi'u gosod iddo’i hun."

“Er fy mod yn hapus â'r adroddiad cyntaf hwn, mae Comisiwn y Cynulliad yn sylweddoli bod swm sylweddol o waith i'w wneud eto os ydym am gyflawni ein huchelgais ar gyfer y pedwerydd Cynulliad hwn. Byddwn yn gweithio'n galed yn y meysydd y gallwn eu gwella.”

Caiff dangosyddion perfformiad allweddol eu mesur gan ddefnyddio nifer o ddulliau gwahanol, gan gynnwys barn Aelodau'r Cynulliad, ystadegau ar ymgysylltiad â’r cyhoedd a dulliau mesur mewnol.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Mae'n briodol bod corff deddfu Cymru yn ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf, ac y dylem fod yn gwbl atebol am ein perfformiad”.

“Dyna'r rheswm pam mae'r adroddiad newydd hwn mor bwysig a gwerthfawr.

“Rwy'n falch o'r bobl sy'n gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r ymrwymiad sydd gan bob un ohonynt i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau seneddol enghreifftiol .

“Ond byddwn bob amser yn ceisio gwneud yn well a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i godi safonau ac i gyflawni’r gwerth gorau am bob punt o arian cyhoeddus y byddwn yn ei gwario.”