Cytunodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar y camau nesaf o ran rhai o’i flaenoriaethau allweddol yn gynharach yr wythnos hon. Daeth y cyfarfod cyn cyhoeddi cynigion cyllidebol drafft y Comisiwn ar gyfer 2018-19.
Ystyriodd y Comisiynwyr ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Senedd Ieuenctid, a chytunodd i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru. Bydd y gwaith yn awr yn dechrau, ar y cyd â phobl ifanc a sefydliadau pobl ifanc o bob cwr o Gymru i greu corff, o dan arweiniad pobl ifanc, i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed fel rhan o’r broses ddemocrataidd.
Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd, sy’n cadeirio Comisiwn y Cynulliad:
"Rwyf wrth fy modd bod dros bum mil o bobl ifanc wedi rhoi o’u hamser i ddweud wrthym beth mae’n nhw’n ei feddwl am ein cynlluniau ar gyfer Senedd Ieuenctid i Gymru - mae’r cynigion yn well yn sgîl eu sylwadau. Gobeithio y bydd y Senedd Ieuenctid newydd yn cael ei hethol yn 2018, ac y bydd safbwyntiau pobl ifanc yn parhau i lywio ein cynlluniau wrth iddynt fynd ymlaen."
Ym mis Tachwedd, bydd y Comisiynwyr yn ystyried cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno argymhellion y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol. Sefydlwyd y Tasglu i gynghori’r Comisiwn ar y ffordd orau i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach ynghylch gwaith y Cynulliad, ac i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd.
Mae dyletswydd statudol ar y Comisiwn i sicrhau bod gan y Cynulliad ddigon o le i ddiwallu ei anghenion presennol a’i anghenion yn y dyfodol ac, fel y cyhoeddwyd eisoes, bu’n ymchwilio i opsiynau i fynd i’r afael â’r diffyg lle yn Nhŷ Hywel. Ni wnaed dim penderfyniadau i fwrw ymlaen ag unrhyw opsiwn i fynd i’r afael â’r prinder lle, ond mae’r Comisiynwyr wedi cytuno y dylai cyllideb y flwyddyn nesaf gynnwys swm tryloyw, wedi’i neilltuo, i adlewyrchu costau posibl datblygu cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd. Dim ond os cytunir ar benderfyniad i fynd ymlaen â chais cynllunio y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio, ac os na wneir y penderfyniad hwn, bydd yr arian yn cael ei gadw yng Nghronfa Gyfunol Cymru.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y bydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol, a sefydlwyd ym mis Chwefror 2017, yn cyhoeddi ei ganfyddiadau cyn diwedd y flwyddyn. Bydd ei adroddiad yn rhoi cyngor ac argymhellion arbenigol i Gomisiwn y Cynulliad ar dri phrif fater craidd, sef, nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas i’w defnyddio i’w hethol a’r oedran pleidleisio lleiaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.