Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni ei nodau

Cyhoeddwyd 02/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni ei nodau

2 Mehefin 2014

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei drydydd Adroddiad Perfformiad Corfforaethol.

Cafodd ei gynhyrchu mewn ymateb i argymhelliad gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ac mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014.

Mae'r adroddiad yn mesur perfformiad y Comisiwn yn erbyn ei nodau strategol, sef: darparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf; ymgysylltu â phobl Cymru; hyrwyddo Cymru; a defnyddio adnoddau'n ddoeth.

Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd da ar draws yr holl ddangosyddion perfformiad.

Dywedodd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, "Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod Comisiwn y Cynulliad ar y trywydd iawn i gyflawni'r nodau anodd a osododd iddo'i hun.

"Er enghraifft, rydym wedi gwella ein darpariaeth o ran cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf drwy lansio meddalwedd cyfieithu peirianyddol Cymraeg yn llwyddiannus, mewn partneriaeth â Microsoft, sydd wedi gwella ein gwasanaethau dwyieithog.

"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad ac rydym wedi cynnal yr ymgynghoriad ehangaf erioed gan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda mwy na 3,000 o bobl ifanc yn dweud wrthym sut y dylem ymgysylltu â hwy.

"Rydym hefyd wedi sicrhau lleihad o 9 y cant mewn allyriadau ynni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn parhau i fod ar y blaen i'n targedau tirlenwi gwastraff.

"Ond mae Comisiwn y Cynulliad yn cydnabod bod cryn dipyn o waith i'w wneud os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.  Byddwn yn gweithio'n galed yn y meysydd lle y gallwn wella."

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: "Mae'n iawn y dylai corff deddfu Cymru ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf, ac y dylem fod yn gwbl atebol am ein perfformiad.

"Dyna pam mae cyhoeddi ein data perfformiad allweddol yn ddull gwerthfawr o feincnodi, nid yn unig i ni, ond i bobl Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau seneddol enghreifftiol.

"Rwy'n falch o'r bobl sy'n gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r ymrwymiad y maent i gyd wedi ei ddangos wrth weithio tuag at gyflawni ein nodau."