Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi panel adolygu annibynnol i asesu cyflogau a chymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/08/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Heddiw, cyhoeddodd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dydd Iau 7 Awst) ei fod wedi ffurfio panel adolygu annibynnol i gynnal archwiliad sylfaenol o gyflogau a chymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

Cadeirydd y panel fydd Syr Roger Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe. Aelodau eraill y panel fydd y Gwir Anrh Dafydd Wigley, Nigel Rudd (cyn Brif Weithredwr Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr), Deep Sagar (Cadeirydd Lease ac NHS 24), a Jackie Nickson (Rheolwr Adnoddau Dynol, Opagus Group Ltd).

Gyda’r panel yn atebol i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gosodwyd iddo’r dasg o ddarparu adroddiad ac argymhellion ar gyflogau a chymorth ariannol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys treuliau, lwfansau, staff cynorthwyol, swyddfeydd etholaeth a thechnoleg gwybodaeth.

Sefydlwyd y panel adolygu annibynnol gan y Comisiwn yn dilyn argymhelliad yn adroddiad cyntaf y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2008.

Meddai Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: ‘Cafwyd tipyn o drafodaeth gyhoeddus ynglyn â’r ffordd y mae gwleidyddion etholedig yn cael eu talu ac yn cael cymorth ar gyfer eu gwaith. Felly, gosodwyd i’r panel adolygu annibynnol y dasg o gynhyrchu cyfres o argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnwys egwyddorion a fydd yn darparu proses deg, cyfiawn a thryloyw ar gyfer cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad yn ariannol er mwyn gwella gwybodaeth ac amgyffrediad y cyhoedd o’r materion hyn.’

Meddai Syr Roger Jones, cadeirydd y panel adolygu: ‘Mae ymrwymiad i ddemocratiaeth dryloyw a chyraeddadwy wrth wraidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n falch cael cadeirio panel a fydd yn atebol i Gomisiwn y Cynulliad ynglyn â’r ffordd orau o ddarparu cymorth i Aelodau’r Cynulliad, a fydd yn briodol i Gymru ac a fydd yn helpu i ategu llywodraethu da yn y dyfodol a gwasanaeth cyhoeddus effeithiol yng Nghymru.’

Disgwylir i’r panel gyflwyno adroddiad ac argymhellion gerbron Comisiwn y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2009.

Nodiadau

Comisiwn y Cynulliad

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, ac y mae’n cryfhau ei rôl graffu.

Y mae hefyd yn creu Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd ar wahân yn gyfreithiol, a chorff newydd, sef Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) sydd yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad.

Etholwyd Comisiynwyr y Cynulliad gan Aelodau. Yn ogystal â’r Llywydd, sydd yn cadeirio’r Comisiwn, dyma aelodau’r Comisiwn:

Lorraine Barrett: Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys cyfrifoldeb am gydraddoldeb, iaith, yr amgylchedd a bod yn niwtral o ran carbon, caffael cynaliadwy a rheoli’r ystad.

Peter Black: Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar ansawdd craffu a’r broses ddeddfu, cyfathrebu allanol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, addysg ym maes dinasyddiaeth, a chyfreithlondeb.

Chris Franks: Comisiynydd y Cynulliad sy’n Gwella. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar wella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion, cynnwys rhanddeiliaid, cynllunio strategol, a sicrhau gwerth am arian.

William Graham: Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys edrych ar reoli asedau’r Cynulliad, pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, y gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo staff cymorth Aelodau’r Cynulliad), cyllid, cyflogau a lwfansau Aelodau, effeithlonrwydd a llywodraethu da.

Dolenni

Adroddiad cyntaf y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad (yn Saesneg)