Comisiwn y Cynulliad i lansio Cynllun Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd 10/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad i lansio Cynllun Iaith Gymraeg

Bydd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n lansio ei Gynllun Iaith Gymraeg newydd yn y Senedd am 5.30 ddydd Mercher 11 Gorffennaf. Y Llywydd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC fydd yn cyflwyno’r cynllun.  Bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd yn siarad.   Dywedodd y Llywydd “Rwy’n falch o fod yn lansio Cynllun Iaith Gymraeg Comisiwn y Cynulliad.  Mae Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad bob amser wedi rhoi dwyieithrwydd wrth wraidd popeth y mae wedi’i wneud a nawr ein bod wedi gwahanu’n ffurfiol oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae’n rhoi pleser mawr i mi weld bod Cynllun Iaith Gymraeg ymysg rhai o gyflawniadau cyntaf y Comisiwn.  Rwy’n edrych ymlaen at wynebu’r ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud yn y cynllun” Y Cynllun Iaith Gymraeg